Mae’r parth hwn yn ymwneud â’r cymorth cyffredinol a’r buddsoddiad mewn gweithredu a chynnal dull gweithredu sy’n ystyriol o drawma a phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod (ACE) (TrACE).
Ar y dudalen hon fe welwch adnoddau gan Hyb ACE Cymru sydd ar gael yn Gofod TrACE, i’ch cefnogi i ddatblygu eich hunanasesiad a chynllunio gweithredu yn y maes hwn gyda’r parth hwn. Ceir hefyd enghreifftiau ymarferol a gwersi a ddysgwyd gan sefydliadau sydd eisoes wedi rhoi newid ar waith mewn perthynas â llywodraethu, arweinyddiaeth a diwylliant sefydliadol.
Mae'r adnoddau hyn yn rhan o'n cyfres newydd o 'Dan Sylw.'
Mae’r astudiaethau achos hyn yn cael eu cyd-gynhyrchu gyda sefydliadau a phobl ledled Cymru sy’n arwain mentrau ar lefel gymunedol sydd eisoes yn cyfrannu at y weledigaeth i Gymru ddod yn genedl sy’n ystyriol o drawma drwy weithio mewn ffordd sy’n seiliedig ar drawma. Pwrpas yr adroddiadau hyn yw taflu goleuni ar y dulliau presennol o weithredu, dathlu eu gwaith a pharhau i lywio a chefnogi’r gwaith o weithredu Fframwaith Cymru sy’n Ystyriol o Drawma a datblygu ymhellach ein pecyn cymorth sefydliadol ar sail Trawma a Phrofiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod (TrACE).
Mae'r System Cyfiawnder Troseddol yn gweithio gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru i ymchwilio a datblygu polisi ac ymarfer sy'n ymwneud â thrawma hiliol. Dylai dulliau sy'n ystyriol o drawma greu amgylcheddau iachâd i'r rhai sydd wedi profi trawma hiliol.