Adnoddau ar gyfer aelodau’r gymuned

Gwasanaeth Cyffuriau ac Alcohol Gwent (GDAS): Cyfres Sbotolau

Mae’r adroddiad sbotolau hwn yn amlygu gwaith gwych Gwasanaeth Cyffuriau ac Alcohol Gwent (GDAS) wrth weithredu’r Pecyn Cymorth Sefydliadol sy’n ystyriol o Drawma a Phrofiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod (TrACE). Fel sefydliad consortiwm, mae GDAS yn darparu cymorth defnyddio sylweddau ledled Gwent ac mae'r sylw hwn yn amlygu'r daith hon; mae’r adroddiad yn canolbwyntio ar eu gweledigaeth, eu hymagwedd at wreiddio Pecyn Cymorth sefydliadol gwybodus TrACE a sut mae'r Pecyn Cymorth wedi eu cynorthwyo i wneud newidiadau cadarnhaol yn eu hymrwymiad i ddod yn sefydliad gwybodus TrACE.

Mae GDAS wedi ymrwymo i ddefnyddio lens sy’n seiliedig ar drawma ym mhob maes o’u gwaith a gellir defnyddio’r sbotolau hwn fel adnodd defnyddiol i bob sefydliad sy’n cychwyn ar eu taith TrACE.

Adroddiad

Deall Anghenion Iechyd Menywod sydd mewn Perygl o ymuno â’r System Cyfiawnder Troseddol yng Ngogledd Cymru

Mae'r astudiaeth hon yn ymchwilio i'r anghenion gofal iechyd, y rhwystrau rhag cael mynediad, a rôl anghenion iechyd heb eu diwallu ar gyfer menywod yn y system gyfiawnder troseddol, neu’r menywod hynny sydd mewn perygl o fod ynghlwm â hi. Mae'r ymchwil yn canolbwyntio ar brofiadau uniongyrchol menywod yng Ngogledd Cymru, cyn iddynt fod ynghlwm â'r system gyfiawnder troseddol mewn perthynas â'u hanghenion iechyd sylfaenol (iechyd meddwl a chorfforol), gan ddefnyddio dulliau cymysg gan gynnwys grwpiau ffocws, holiaduron a chyfweliadau.

Mae argymhellion yr adroddiad yn canolbwyntio ar fynd i'r afael â rhwystrau rhag cael mynediad i ofal iechyd, blaenoriaethu ymyrraeth gynnar a gofal iechyd ataliol, gweithredu meysydd sy'n seiliedig ar drawma ac sy'n benodol i rywedd, ehangu ac integreiddio gwasanaethau yn y gymuned, symleiddio a gwella llwybrau gwasanaeth a hyrwyddo casglu data ac ymchwil pellach yn y maes hwn i lenwi’r bylchau presennol mewn gwybodaeth a dealltwriaeth yn y maes hwn.

Adroddiad

Creu Amgylcheddau Ffisegol sy’n Ystyriol o Drawma a Phrofiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod (TrACE)

Bwriad y canllawiau hyn yw cefnogi sefydliadau sy’n gweithredu Pecyn Cymorth TrACE. Bydd yn eu helpu i sicrhau eu bod yn ystyried pob agwedd ar eu hamgylchedd ffisegol a chymdeithasol a’r effaith y gall ei chael ar staff, defnyddwyr gwasanaethau a phawb arall sy’n ymwneud â’r sefydliad. Mae'n berthnasol i bawb sy'n ceisio gwneud amgylcheddau ffisegol ei sefydliad yn fwy ystyriol o TrACE. Mae'n ceisio dangos y gall hyd yn oed newidiadau bach gael effaith fawr ar y ffordd y mae pobl yn rhyngweithio ag amgylchedd ac yn ei brofi, ac y gall pob sefydliad geisio gwella eu hamgylcheddau ffisegol waeth beth fo'r cyfyngiadau cyllidebol a chyfyngiadau eraill. Mae'n pwysleisio bod angen cynllunio, dylunio a gweithredu'n ofalus i greu diogelwch a hyrwyddo iachâd a llesiant i'r rhai sy'n profi'r amgylchedd. Mae hefyd yn ceisio, cyn belled ag y bo modd, osgoi achosi ail drawma i bobl sy'n defnyddio'r lleoliad.

Tywysydd

Hyfforddiant ynghylch Trawma a Phrofiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod (TraCE) ar gyfer Ymarferwyr Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill (ESOL) yng Nghymru: Deall y ddarpariaeth bresennol a’r bylchau

Mae’r adroddiad yn archwilio’r hyfforddiant sydd ar gael yn ymwneud â thrawma ac anghenion ymarferwyr Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill (ESOL) yng Nghymru. Daw dysgwyr ESOL o gefndiroedd amrywiol, gan gynnwys ffoaduriaid a cheiswyr lloches a brofodd drawma cymhleth. Mae’n hanfodol bod darparwyr ESOL yn derbyn hyfforddiant i gynnig cefnogaeth gwerthfawr i’r dysgwyr hynny. Mae'r adroddiad yn cyflwyno canfyddiadau o gyfweliadau gydag ymarferwyr ESOL ledled Cymru, gan archwilio eu profiadau o hyfforddiant a nodi anghenion hyfforddi ychwanegol. Bydd argymhellion yr adroddiad yn canolbwyntio ar gynyddu’r ddarpariaeth hyfforddiant sy'n seiliedig ar drawma yng Nghymru. Mae’r adroddiad wedi’i chynllunio ar gyfer ymarferwyr ESOL a llunwyr polisi sydd â diddordeb mewn dulliau addysgu sy’n seiliedig ar drawma.

Adroddiad

Pecyn Dechrau Arni gydag Ymarfer Myfyriol

Cafodd yr adnodd pwysig hwn ei gyd-gynhyrchu gyda dau o’n sefydliadau partner trydydd sector, mae gan Cymorth Cymru a Platfform ill dau arbenigedd a phrofiad helaeth o hyrwyddo dulliau seicolegol-wybodus, gan gynnwys arfer myfyriol, mewn tai a digartrefedd, ac iechyd meddwl a llesiant mewn ffordd berthynol sy’n seiliedig ar drawma. Mae’r Pecyn Dechrau Arni yn dod â gwybodaeth, doethineb a chyngor ymarferol ynghyd, wedi’u profi gyda phobl a sefydliadau ledled Cymru a thrwy’r Gofod TrACE.

Mae’r Pecyn Dechrau Arni gydag Ymarfer Myfyriol hwn wedi’i gynllunio i fod yn fan cychwyn ymarferol ar gyfer y sgyrsiau cymhleth hyn ac i gefnogi’r gwaith o ddatblygu diwylliant myfyriol a dysgu o fewn eich tîm, eich sefydliad neu i chi’ch hun. Nod y pecyn hwn yw helpu pawb sy'n ymwneud â bod yn ystyriol o TrACE i gymryd camau i gynnwys ymarfer myfyriol yn eu gwaith o ddydd i ddydd. Drwy wneud hynny, bydd y sefydliad yn elwa ar ddiwylliant dysgu cryf, sydd wedi’i wreiddio mewn gwelliant parhaus sy’n cynnwys yr hyn sydd wedi’i wneud, sut y cafodd ei wneud a sut roedd hynny’n teimlo i’r bobl dan sylw fel y gellir ymgorffori arferion da ymhellach a nodi meysydd i’w hadolygu a’u datblygu ymhellach.

Tywysydd

Creu Gwent Decach – Cyfres Sbotolau

Mae’r adroddiad hwn yn amlinellu sut, drwy fabwysiadu’r dull ‘Dinas Marmot’ a ddatblygwyd gan Syr Michael Marmot, ar lefel ranbarthol yng Ngwent, mae ‘Gwent Teg i Bawb’ yn ceisio sefydlu model sy’n ystyriol o drawma ac sy’n mynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd mewn ffordd sy’n cyd-fynd ag egwyddorion ac ethos Fframwaith Cymru sy'n Ystyriol o Drawma. Mae ‘Creu Gwent Degach' yn cydnabod y cysylltiad annatod rhwng penderfynyddion cymdeithasol iechyd, anghydraddoldebau iechyd a'r risg o brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod a thrawma. Mae'r gwaith hwn yn gyfraniad pwysig at wybodaeth am waith cymunedol i fynd i'r afael ag achosion gwraidd.

Adroddiad

Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod (ACEs) ac Ymarfer sy’n Ystyriol o Drawma yng Cymru: Cwrs e-Ddysgu

Croeso i gwrs e-Ddysgu Cyflwyniad i Brofiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod (ACEs) ac Ymarfer sy'n Ystyriol o Drawma gan Hyb ACE Cymru. Gan gyfeirio at Fframwaith Cenedlaethol Cymru sy'n Seiliedig ar Drawma, ystyrir bod y cwrs ar-lein hwn ar lefel "ymwybodol o drawma".

E-Ddysgu

Taith y Dysgwr

Podlediad

Canllaw ymarferol i greu Datganiad o Ymrwymiad Trawma a Phrofiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod (TrACE)

Pwrpas y canllaw hwn yw cynorthwyo sefydliadau i greu eu Datganiad Ymrwymiad eu hunain. Mae hwn yn gam allweddol wrth greu cyd-ddealltwriaeth, pwrpas cyffredin a chyfrifoldeb am arweinyddiaeth ar bob lefel, sy’n hysbysu ac sy’n ymgysylltu â phawb yn y sefydliad. Gall Datganiad Ymrwymiad sydd wedi’i grefftio’n dda helpu i gyfleu’r bwriad a’r flaenoriaeth i ddod yn sefydliad sy’n ystyriol o TrACE i staff, defnyddwyr gwasanaeth a rhanddeiliaid ehangach.

Tywysydd

Cyfathrebu sy’n Ystyriol o Drawma

Tywysydd

Cynorthwyo dioddefwyr trais rhywiol a thrais ar sail rhywedd nad oes ganddynt fynediad at arian cyhoeddus

Adroddiad

Hyfforddiant Sefydliad Gwybodus am Drawma Cymru Gyfan

Tywysydd & Fideo

Nodi Llwybrau Menywod at Droseddu a’r Cyfleoedd Atal ac Ymyrraeth Gynnar Sylfaenol i Fenywod Mewn Perygl o Droseddu yng Nghymru

Poster & Adroddiad

Beth Sy’n Gweithio gydag Atal ac Ymyrraeth Gynnar o ran ACEs ar Lefel Gymunedol? Nodi a Chefnogi Prosiectau ledled Cymru

Poster & Adroddiad

‘Wedi’i Lywio gan Drawma’: Adnabod Iaith a Therminoleg Allweddol trwy Adolygiad o’r Llenyddiaeth

Poster & Adroddiad

Beth sy’n Gweithio o ran Atal Profiadau Niweidiol yn Ystod Plentyndod (ACEs) ar Lefel Gymunedol?

Adolygiad o Dystiolaeth ac Ymarfer Mapio

Poster & Adroddiad

Gwahaniaethu a Phrofiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod (ACEs) ym Mywydau Plant Ffoaduriaid y 1930au: Dysgu ar gyfer y Presennol a’r Dyfodol

Poster & Adroddiad

Cymorth i Bobl sydd wedi’u Dadleoli yng Nghymru mewn Llety Preifat

Taflen

Cymorth iechyd a lles ar gyfer pobl sydd wedi’u dadleolis

Taflen

Adolygiad o Torri Tir Newydd

Adroddiad & Fideo

Hwb Cymorth ACE Adroddiad Blynyddol 2020-21

Adroddiad

Gwerthusiad annibynnol o hyfforddiant ar-lein ac argymhellion ar gyfer hyfforddiant pellach ac ymgorffori dulliau sensitif i drawma yn y gweithle

Adroddiad

Ymchwilio i safbwyntiau darparwyr addysg a gwasanaethau cymorth addysgol ar eu gallu i ddiwallu anghenion plant ysgolion cynradd sy’n geiswyr noddfa yn Ne Cymru

Adroddiad

Cam-drin rhwng Cyfoedion

Taflen

Cam-drin Domestig

Taflen

Priodas Dan Orfod

Taflen

Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod (ACEs) a Phlant oedd yn Ffoaduriaid yn y 1930au yn y DU

Hanes yn Ffurfio’r Dyfodol

Adroddiad

Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod mewn poblogaethau plant sy’n ffoaduriaid ac yn geiswyr lloches

Adroddiad