Deall y materion a all fod yn cyfrannu at wahaniaethu ar sail hil o fewn y dulliau Dargyfeirio cyn Achos Llys yng Nghymru i bob grŵp o bobl, gan ganolbwyntio ar Fenywod a Phlant

Mae Cymru yn cymryd y cam nesaf yn ei chenhadaeth i greu system cyfiawnder troseddol wirioneddol wrth-hiliol, gyda gwaith ymchwil newydd ei gomisiynu yn amlinellu'r realiti a wynebir gan fenywod, plant a phobl ifanc o gefndiroedd ethnig amrywiol ac yn nodi argymhellion ymarferol ar gyfer newid.

Mae'r canfyddiadau, a gyhoeddir yn y Racial Disparity in Pre-Court Diversion Report, yn tynnu sylw at sawl ffactor sy'n cyfrannu at dangynrychiolaeth pobl ethnig leiafrifol sy'n cael Datrysiadau y Tu Allan i'r Llys, sy'n golygu y gallent fynd ymlaen i gael dedfrydau llymach. Gwnaed y gwaith ymchwil gan Mark Jones, Cyfarwyddwr yn Higher Plain ac Athro Anrhydeddus / Gwadd ym Mhrifysgol Abertawe a Phrifysgol De Cymru ac mae'n datgelu achosion posibl gwahaniaethau ar sail hil wth ddefnyddio'r system cyfiawnder troseddol, megis diffyg ymddiriedaeth yn y system cyfiawnder a'r angen am wasanaethau sy'n fwy cymwys yn ddiwylliannol. Mae hefyd yn galw am gyflwyno model o ymarfer gwrth-hiliol sy'n ystyriol o drawma ac y cytunwyd arno'n genedlaethol ledled Cymru. Mae'r adroddiad, sy'n rhoi argymhellion ar sut y gall asiantaethau cyfiawnder troseddol weithio i gynyddu cyfran y bobl ethnig leiafrifol sy'n manteisio ar gyfleoedd dargyfeirio, yn adeiladu ar Gynllun Gweithredu Gwrth-hiliaeth Cyfiawnder Troseddol i Gymru (2022), sydd i gyd yn rhan o ymdrech drawslywodraethol ehangach i greu Cymru Wrth-hiliol erbyn 2030.

Nod y dulliau gweithredu newydd hyn yw lleihau effaith a thrawma cael eich arestio, hyrwyddo cyfiawnder adferol a helpu unigolion i wneud dewisiadau bywyd cadarnhaol mewn perthynas ag addysg, cyflogaeth a llesiant.

Adroddiad
Share