Hyfforddiant Sefydliad Gwybodus am Drawma Cymru Gyfan

Tywysydd & Fideo
Share

Croeso i hyfforddiant Sefydliad sy’n Ystyriol o Drawma.

Mae’r pecyn hyfforddi hwn wedi’i gynhyrchu gan Barnardo’s Cymru gyda chyllid gan Lywodraeth Cymru. Mae’n cyd-fynd â Fframwaith Trawma Cymru i gefnogi dull cydlynol, cyson o ddatblygu a gweithredu arfer sy’n ystyriol o drawma ledled Cymru. Mae’r hyfforddiant wedi’i ddatblygu’n benodol mewn partneriaeth â ac ar gyfer sefydliadau cymunedol llai sy’n gwneud cyfraniad sylweddol at gefnogi pobl yng Nghymru; fodd bynnag, gall unrhyw sefydliad sy’n dymuno cychwyn ar y daith i ddod yn ystyriol o drawma ei ddefnyddio. P’un a ydych yn cefnogi plant, pobl ifanc neu oedolion, ni fydd ymagwedd sy’n ystyriol o drawma yn gwneud unrhyw niwed a gall hybu iachâd ac adferiad i bawb. Mae’r hyfforddiant yn ymgorffori’r wybodaeth y gall pawb brofi trawma ac mae’r dull yn cynnwys sut mae sefydliadau’n cefnogi ac yn gwerthfawrogi eu staff yn ogystal â defnyddwyr gwasanaeth.

Bydd y dudalen hon yn rhoi’r holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch i symud ymlaen gyda’r adnoddau yn eich amser eich hun. Byddwch yn dod o hyd i’r adnoddau uchod i’w lawrlwytho pan fyddwch wedi darllen y wybodaeth isod ac yn barod i ddechrau.

Nodau'r hyfforddiant

Nodau’r hyfforddiant yw:

  • Deall adfyd a thrawma yn well a'i effaith ar draws eich bywyd

  • Deall elfennau allweddol dull sy'n ystyriol o drawma

  • Cydnabod arwyddocâd diwylliant a chredoau sefydliadol

  • Deall egwyddorion allweddol dod yn sefydliad sy'n ystyriol o drawma

  • Deall sut i roi dulliau ac egwyddorion ystyriol o drawma ar waith yn eich sefydliad

  • Cynllunio'r camau nesaf ar daith eich sefydliad tuag at ddod yn ystyriol o drawma

Mae’r hyfforddiant yn cynnwys fideos a gweithlyfr ac ar gael yn y Gymraeg a’r Saesneg. Rydym yn argymell gwylio’r fideos mewn trefn, gan fod pob pennod yn adeiladu eich gwybodaeth i gefnogi cynnydd. Bydd gwylio’r fideo yn gyntaf ac yna defnyddio’r adrannau perthnasol yn y Gweithlyfr yn hwyluso eich myfyrio a’ch dysgu.

Gall yr hyfforddiant ymddangos fel adnodd mawr ac ychydig yn frawychus, ond mae wedi’i rannu’n Benodau byr, felly cymerwch eich amser i archwilio pob adran.

Rydym yn mawr obeithio y bydd yr hyfforddiant hwn yn ddefnyddiol i chi; gallai fod yn ddechrau taith gyffrous i’ch sefydliad.