Mae'r gwerthusiad annibynnol hwn a gynhaliwyd gan MEL Research, yn rhoi mewnwelediadau allweddol wrth weithredu Pecyn Cymorth TrACE.
Mae'r Adroddiad Cryno yn tynnu sylw at y cyd-destunau sy'n galluogi rhoi Pecyn Cymorth TrACE ar waith yn llwyddiannus mewn sefydliadau ac mae'r Astudiaethau Achos yn rhoi enghreifftiau bywyd go iawn o ymarfer sy'n ystyriol o drawma ac ACE.

I ddysgu rhagor, gwyliwch y recordiad hwn o’r Gymuned Ymarfer TrACE ddiweddaraf lle mae Holly Taylor-Dunn, o MEL, yn amlinellu’r mewnwelediadau allweddol ochr yn ochr â rhai o arweinwyr y sefydliadau astudiaeth achos.
Webinar wedi ei chynnal yn Saesneg.
Am ragor o wybodaeth am sut i ddefnyddio Pecyn Cymorth TrACE, cofrestrwch ar gyfer Gofod TrACE neu anfonwch e-bost i ace@wales.nhs.uk