Mae Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod (ACEs) yn brofiadau dirdynnol sy’n digwydd yn ystod plentyndod sy’n niweidio plentyn yn uniongyrchol (e.e. cam-drin rhywiol neu gorfforol) neu’n effeithio ar yr amgylchedd y mae’n byw ynddo (e.e. tyfu i fyny mewn tŷ â thrais domestig). (Bellis et al 2016)
Mae ymchwil gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn canolbwyntio ar ddeg ACE sy’n digwydd yn y cartref neu amgylchedd y teulu ac yn dangos y cysylltiad rhwng ACEs a risg o iechyd gwael a chanlyniadau cymdeithasol gwael ar draws cwrs bywyd lle nad oes unrhyw ffactorau amddiffynnol, neu gymorth hygyrch.
Mae llawer mwy o adfydau y gall plant a phobl ifanc eu profi; rhai ohonynt yn drawmatig. Gallem i gyd brofi digwyddiadau trawmatig ar unrhyw adeg yn ein bywydau. Mae hyn yn cynnwys adfyd ehangach o brofiadau o hiliaeth, gwahaniaethu, anghydraddoldebau strwythurol a ffactorau economaidd-gymdeithasol ehangach.
Mae angen i ni i gyd ddeall a siarad am ACEs a thrawma, oherwyddy mwyaf rydym yn gwybod, y mwyaf y gallwn feddwl am sut y gallwn sicrhau ein bod yn ymateb mewn ffordd sy’n ystyriol o drawma.
Mae Fframwaith Trawma Cymru’n darparu diffiniad Cymru o ddull sy’n ystyriol o drawma, pum egwyddor a phedair lefel ymarfer i helpu pob unigolyn, cymuned, sefydliad a system yng nghymdeithas Gymreig i ddeal ymddygiad fel cyfathrebu, cydnabod a deall effaith anghydraddoldebau diwylliannol, rhywedd a hanesyddol, ac anghyfiawnder cymdeithasol a’u cysylltiad achosol â phrofiadau o drawma.
Os ydym yn ystyriol o drawma rydym yn anfeirniadol, yn garedig ac yn dosturiol, gan hyrwyddo gwydnwch a chryfder fel adnoddau cyfunol yn hytrach nag adnoddau unigol. Rydym yn deall pwysigrwydd diogelwch ac ymddiriedaeth wrth fynd i’r afael ag adfyd, trawma a thrallod.
Ar gyfer pob 100 o bobl yng Nghymru:
mae 50 wedi profi un ACE
wedi profi 4 neu fwy.
Disgrifir gwytnwch fel y gallu i oresgyn caledi difrifol megis y rhai a gyflwynir gan ACEs. Mae’r ffactorau sy’n cefnogi gwydnwch yn cynnwys sgiliau personol, perthnasoedd cadarnhaol, cefnogaeth gymunedol a chysylltiadau diwylliannol.
Cyhoeddwyd Arolwg Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod (ACE) a Gwydnwch yn 2018 a archwiliodd ffactorau unigol a chymunedol a allai gynnig amddiffyniad rhag effeithiau niweidiol ACEs ar iechyd, lles a ffyniant ar draws hynt bywyd.
Dangosodd y canfyddiadau fod mynediad at oedolyn dibynadwy yn ystod plentyndod, ffrindiau cefnogol a chymryd rhan mewn gweithgareddau cymunedol, megis chwaraeon, yn lleihau’r risgiau o ddatblygu afiechyd meddyliol; hyd yn oed yn y rhai a brofodd lefelau uchel o ACEs. Roedd cyrchu’r ffactorau amddiffynnol hyn yn fwy na haneru’r risgiau o salwch meddwl a oedd yn bresennol yn y rhai â 4 ACE neu fwy.
Gall mynediad at gymorth a ffactorau amddiffynnol leihau’r risgiau cynyddol i iechyd meddwl o ACEs. Mae adnoddau cydnerthedd personol, perthnasoedd a chymunedol megis sgiliau cymdeithasol ac emosiynol, modelau rôl plentyndod, cefnogaeth cyfoedion, cysylltiadau â’r ysgol, deall sut i gael cymorth cymunedol, ac ymdeimlad bod eich cymuned yn deg i chi wedi’u cysylltu’n gryf â risgiau llai o salwch meddwl ar draws hynt bywyd. Mae ffactorau cadarnhaol uchel sy’n cefnogi gwydnwch plentyndod yn gysylltiedig â gostyngiadau sylweddol mewn salwch meddwl gydol oes ac mae’n bosibl eu bod yn cynnig amddiffyniadau hyd yn oed yn y rhai heb unrhyw ACE.
Fodd bynnag, mae gwydnwch yn fecanwaith i oresgyn adfyd; rydym yn parhau i ganolbwyntio ar atal adfyd rhag digwydd yn y lle cyntaf a mynd i’r afael â’r achosion strwythurol sy’n sail iddo.
Mae bod yn Ystyriol o drawma ac ACE (TrACE) yn golygu cydnabod bod profiadau trawma yn bosibilrwydd i unrhyw un y byddwn yn cwrdd yn ein bywydau personol a phroffesiynol. Nid yw hyn yn ymwneud â mwy o atgyfeiriadau na chyfrif ACEs. Mae’n ymwneud â chymryd yr amser i ddeall beth sydd wedi digwydd i bobl, yn hytrach na beio neu ystrydebu.
Er mwyn troi gwybodaeth am ACEs yn ymarferol, rydym am helpu pobl, sefydliadau a systemau i atal adfyd a thrawma a’u heffeithiau negyddol cysylltiedig.
Mae’n golygu creu cymdeithas a gweithlu sy’n fwy tosturiol tuag at bobl. Rydym yn ceisio dod â chysondeb a chydlyniant i gefnogi’r ymdrech honno a sicrhau ei bod yn diwallu anghenion y rhai y mae trawma yn effeithio arnynt.
Dysgwch ragor am ein huchelgeisiau TrACE yma:
Pecyn Cymorth TrACERydym yn cydweithio â Phrifysgol Glyndŵr Wrecsam (WGU) i gefnogi eu huchelgais i fod y sefydliad Addysg Uwch cyntaf yng Nghymru sy’n ystyriol o Drawma ac ACE. Fel rhan o’r gwaith hwnnw, datblygwyd animeiddiad, ‘Llywio’r Storm’ i helpu i gefnogi myfyrwyr, staff a’r gymuned i ddeall ac adnabod trawma a beth mae ystyriol o drawma yn ei olygu.
Cafodd cysyniad yr animeiddiad ei ddatblygu gan fyfyriwr PhD a darlithydd Prifysgol Glyndŵr Wrecsam, Tegan Brierley-Sollis a daethpwyd ag ef yn fyw gan fyfyrwyr WGU, i ddarlunio’r ffordd y mae gweithio trwy lens wybodus am drawma yn gallu creu cysylltiadau ystyrlon ac amlygu cryfderau eich gilydd.
I weld yr animeiddiad a gwaith WGU gweler isod
I ddysgu rhagor am ddulliau gweithredu sy’n ystyriol o drawma a’r hyn y gallwn ni i gyd ei wneud yn wahanol yn ymarferol i ddod yn ystyriol o drawma, gallwch gyrchu ein canllaw byr ar ddeall Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod (ACEs) ac Ymagwedd sy'n Ystyriol o Drawma ac ACE (TrACE).
Canllaw byr i ddeall Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod ac ymagwedd sy'n ystyriol o Drawma ac ACE (TraCE).