Os ydych chi mewn perygl uniongyrchol, deialwch 999.
Os ydych chi’n poeni am ddiogelwch neu les plentyn ffoniwch yr Heddlu ar 999 neu ffoniwch linell gymorth yr NSPCC – 0808 800 5000.
Mae ADFAM yn rhoi gwybodaeth a chymorth i deuluoedd defnyddwyr cyffuriau ac alcohol.
Mae BAWSO wedi ymrwymo i ddarparu cyngor, gwasanaethau a chymorth i gymunedau lleiafrifoedd ethnig du ac unigolion yng Nghymru sy’n cael eu heffeithio gan gam-drin, trais a chamfanteisio. Mae’r tîm ymroddedig wedi bod yn darparu cymorth ymarferol ac emosiynol i ddioddefwyr BME cam-drin domestig, trais rhywiol, masnachu mewn pobl, anffurfio organau cenhedlu benywod a phriodas dan orfod yng Nghymru ers dros 25 mlynedd.
C.A.L.L. (Cyngor Cymunedol a Llinell Wrando) yn cynnig gwasanaeth gwrando a chymorth cyfrinachol. Mae C.A.L.L. yn cynnig cymorth emosiynol a gwybodaeth/llenyddiaeth ar iechyd meddwl a materion cysylltiedig i bobl Cymru. Ffoniwch 0800 132737 neu tecstiwch ‘Help’ i 81066.
Mae Childline yno i blant a phobl ifanc, ar-lein, ar y ffôn, unrhyw bryd. Gallwch siarad â rhywun dros y ffôn, ar-lein neu anfon e-bost. Ffoniwch 0800 1111.
Mae Crimestoppers yn wasanaeth dienw ar gyfer riportio troseddau. Os oes gennych chi wybodaeth am drosedd, gallwch gysylltu â Crimestoppers dros y ffôn neu ar-lein. Ffoniwch 0800 555 111.
Llinell gymorth ffôn ddwyieithog am ddim sy’n darparu un pwynt cyswllt i unrhyw un yng Nghymru sydd eisiau gwybodaeth bellach neu help yn ymwneud â chyffuriau ac alcohol.
Mae DPIA yn elusen wedi’i lleoli yng Nghaerdydd ac wedi’i lledaenu cyn belled â Chasnewydd, Abertawe, Wrecsam, Torfaen, Caerffili a Blaenau Gwent. Ers 2001 mae DPIA wedi gweithio i helpu ffoaduriaid a cheiswyr lloches i ddod yn fwy hyderus, mwy integredig a hunangynhaliol a’u helpu i deimlo’n gartrefol yng Nghymru.
Fearless yw gwasanaeth ieuenctid Crimestoppers. Gall plant a phobl ifanc riportio trosedd yn ddienw, ar-lein neu dros y ffôn drwy’r gwasanaeth hwn. Mae Fearless hefyd yn darparu adnoddau addysgol ar gyfer gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc, ac mae gweithwyr allgymorth ar gael i gyflwyno gweithdai.
Mae gan y tîm yn Galop ddegawdau o brofiad o gefnogi pobl LGBT+ sy’n ddioddefwyr cam-drin domestig, trais rhywiol, troseddau casineb, therapïau trosi fel y’u gelwir, cam-drin ar sail anrhydedd, priodas dan orfod, a mathau eraill o cam-drin.
Help Fi i Stopio yw’r brand sengl ar gyfer gwasanaethau rhoi’r gorau i smygu’r GIG yng Nghymru am ddim. Ffoniwch 0800 085 2219.
Os ydych chi wedi profi cam-drin domestig, trais rhywiol a/neu drais yn erbyn menywod, neu’n poeni am ffrind neu berthynas sy’n profi unrhyw fath o drais neu gam-drin gallwch eu ffonio i gael cymorth a chyngor cyfrinachol.
Mae Meic yn cynnig llinell gymorth gwybodaeth, cyngor ac eiriolaeth gyfrinachol, ddienw am ddim i blant a phobl ifanc. Gallwch siarad â rhywun dros y ffôn, dros neges destun neu ar-lein.
Mae MIND Cymru yn darparu cyngor a chymorth i rymuso unrhyw un sy’n profi problem iechyd meddwl. Maent yn ymgyrchu i wella gwasanaethau iechyd meddwl, codi ymwybyddiaeth a hyrwyddo dealltwriaeth. Ffoniwch 0300 123 3393.
Mae NAPAC yn cynnig cymorth i oroeswyr cam-drin yn ystod plentyndod gan gynnwys corfforol, emosiynol neu ddefodol neu o ganlyniad i esgeulustod. Ffoniwch 0808 801 0331.
Mae llinell gymorth yr NSPCC yno i oedolion sydd â phryder am blentyn neu berson ifanc. Bydd gweithwyr proffesiynol hyfforddedig yn trafod eich pryderon, yn rhoi cyngor arbenigol ac yn cymryd camau priodol i amddiffyn y plentyn. Ffoniwch 0808 800 5000 neu anfonwch neges destun at 88858.
Mae Oasis Caerdydd yn rhoi croeso cynnes Cymreig i Ffoaduriaid a Cheiswyr Lloches, gan ddarparu cymorth i oddeutu 100-150 o ymwelwyr bob dydd o bob rhan o’r byd, gan gynnwys pobl o Iran, Irac, Affganistan, Swdan, El Salvador, ac Y Traeth Ifori ymhlith llawer o wledydd eraill.
Mae’r Llinell Gymorth Diogelwch Ar-lein i Weithwyr Proffesiynol (POSH) yn helpu pob aelod o’r gymuned sy’n gweithio gyda neu ar gyfer plant yn y DU, ag unrhyw faterion diogelwch ar-lein y gallent hwy, neu blant a phobl ifanc yn eu gofal, eu hwynebu. Ffoniwch 0344 381 4772
Mae Relate yn Wasanaeth cwnsela sy’n gweithio i hyrwyddo iechyd, parch a chyfiawnder mewn perthnasoedd pâr a theulu.
Os ydych mewn argyfwng, neu os oes rhywbeth yn eich siomi, gellir cysylltu â’r Samariaid 24 awr y dydd, bob diwrnod o’r wythnos. Ffoniwch 116 123 neu 0808 164 0123 am gymorth yn Gymraeg.
Mae Cymorth i Ddioddefwyr yn elusen genedlaethol sy’n rhoi cymorth cyfrinachol am ddim i unrhyw un y mae troseddu’n effeithio arno. Os ydych chi wedi dioddef trosedd casineb yna gallwch ffonio Cymorth i Ddioddefwyr ar 0300 303 1982 a byddant yn adrodd amdano ar eich rhan.
Mae Cyngor Ffoaduriaid Cymru yn gweithio i gefnogi ceiswyr lloches a ffoaduriaid ar adegau mwyaf tyngedfennol eu bywydau, gan alluogi pobl sydd wedi cael eu gorfodi i geisio noddfa i ganfod eu traed a dechrau adeiladu bywyd yng Nghymru.
Mae Cymorth i Ferched Cymru yn elusen genedlaethol sy’n gweithio i roi diwedd ar drais domestig yn erbyn menywod a phlant.
Mae Llinell Gymorth Rhieni Young Minds ar gael i gynnig cyngor cyfrinachol i rieni a gofalwyr sy’n poeni am blentyn neu berson ifanc o dan 25 oed.