Pecyn Cymorth TrACE

Mae gan bawb rôl i'w chwarae mewn Cymru'n dod yn genedl ystyriol o Drawma ac ACE. Mae Fframwaith Cymru sy’n Ystyriol o Drawma yn nodi ymagwedd pob oed, cymdeithas gyfan ar gyfer pobl, cymunedau, sefydliadau, sectorau a systemau.

Mae Pecyn Cymorth Sefydliadau Ystyriol o Drawma a Hyb ACE Cymru (TrACE) yn darparu canllaw ymarferol i gynorthwyo sefydliadau i’w cynorthwyo ar eu taith TrACE ac mae’n adnodd allweddol i gefnogi gweithrediad y Fframwaith.

Sefydliadau sy’n Ystyriol o Drawma ac ACE (TrACE)

Mae ein Pecyn Cymorth Sefydliadau Ystyriol o TrACE wedi’i ddatblygu ar y cyd â’n Cymuned Ymarfer genedlaethol TrACE fel adnodd i gynorthwyo pobl, sefydliadau, sectorau a systemau i ddatblygu eu dull gweithredu ystyriol o TrACE eu hunain. Mae'n canolbwyntio ar adeiladu i mewn i arfer da sy'n bodoli, nid arno, a nodi lle y gellir gwneud gwelliannau a newidiadau i bolisïau, arferion, diwylliant a'r amgylchedd.

O fewn Fframwaith Cymru sy'n Ystyriol o Drawma, disgrifir sefydliadau sy’n ystyriol o drawma fel y rhai sy’n deall y gall adfyd, trawma a thrallod ddigwydd i unrhyw un ac ar unrhyw adeg yn ystod cwrs bywyd. Maen nhw'n anelu at greu amodau seicogymdeithasol iach i'r gweithlu a phobl maen nhw'n eu cynorthwyo i leihau bod yn agored i adfyd, trawma, a thrallod.

Fframwaith Cymru sy'n Ystyriol o Drawma

Dechrau Arni â'r Pecyn Cymorth Sefydliadol sy’n ystyriol o TrACE

Rydym wedi gweithio gyda sefydliadau i gydgynhyrchu ein Pecyn Cymorth Sefydliadol sy’n ystyriol o TrACE a thrwy weithio gyda sefydliadau sy’n defnyddio’r dull hwn, rydym wedi profi’r hyn sy’n gweithio i sicrhau’r newid diwylliannol a’r newid sefydliadol sydd eu hangen i wreiddio dull gweithredu sy’n ystyriol o TrACE yn wirioneddol.

Cliciwch ar y dolenni isod i weld copi y gellir ei lawrlwytho o brif ddogfennau'r pecyn cymorth.

  • Ganllaw Ddogfennau

    Mae'r ddogfen ganllawiau yn amlinellu sut orau i gychwyn y broses TrACE. Darllenwch hon yn gyntaf

    Ganllaw Ddogfennau
  • Adolygiad Parodrwydd ar gyfer Gweithredu

    Bydd y rhestr wirio hon yn helpu sefydliadau i ddarganfod pa mor barod maen nhw i gychwyn y broses. Mae'n gofyn i sefydliadau ystyried eu cynnydd ar y daith hyd yn hyn, ymrwymiad gan y sefydliad ac adnoddau i ymgymryd â'r gwaith.

    Adolygiad Parodrwydd ar gyfer Gweithredu
  • Hunan Asesiad

    Mae hyn er mwyn eich helpu i fyfyrio a deall y cynnydd mae eich sefydliad yn ei wneud mewn sefydlu ymarfer sy'n ystyriol o TrACE. Dylai'r offeryn gynorthwyo i nodi cryfderau a llwyddiannau, gan amlygu cyfleoedd i wella hefyd.

    Hunan Asesiad
  • Cynllun Gweithredu

    Bydd cynllunio gweithredu yn helpu sefydliadau i flaenoriaethu'r gweithredoedd a adnabyddwyd o'r broses hunanasesu a gall helpu i roi'r strategaethau yn eu lle.

    Cynllun Gweithredu
Mae gennym ystod o adnoddau ategol i’ch helpu ymhellach, y gallwch gael mynediad iddynt yma:
Adnoddau Ategol

Y Gofod TrACE

Yn ogystal â’r dogfennau craidd uchod, mae gan ein Pecyn Cymorth Sefydliadau Ystyriol o TrACE amrywiaeth o adnoddau ategol i helpu â phethau fel sut i ddatblygu Datganiad o Ymrwymiad i’r gwaith hwn, datblygu cyfathrebiadau, adolygu polisïau a gweithdrefnau, a defnyddio arfer myfyriol.

Mae Our TrACE Space yn faes pwrpasol lle gallwch ddod o hyd i’r adnoddau ychwanegol hyn, cael mewnwelediad ychwanegol ar chwe pharth y pecyn cymorth, a dysgu gan eraill sydd ar y daith hon hefyd. I gael mynediad i’r Gofod TrACE neu i ymuno â’r Gymuned Ymarfer Cenedlaethol, cofrestrwch am ddim yma:

Cofrestrwch / Mewngofnodi

Cymorth TrACE i Sectorau

Mae Hyb ACE Cymru, gyda chyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru, wedi cynorthwyo’r sectorau Addysg Bellach a Chamddefnyddio Sylweddau i roi Pecyn Cymorth TrACE ar waith. Darllenwch fwy am ein gwaith gyda'r sectorau hyn isod.

Mae Hyb ACE Cymru wedi bod yn gweithio gyda’r Sector Addysg Bellach (AB) ers 2020 gyda chyllid ychwanegol penodol o Gronfa Iechyd Meddwl a Llesiant Adran Addysg Ôl-16 Llywodraeth Cymru. Y nod oedd mabwysiadu dull cenedlaethol TrACE ar gyfer y Sector Addysg Bellach. 

 Yn dilyn gwaith cychwynnol gan Goleg Arloesol (Coleg Sir Benfro) a dau Goleg Torri Cwys (Coleg Cambria a Choleg Gwent), mae pob un o’r 13 coleg ledled Cymru bellach wedi cychwyn ar eu taith TrACE ac yn gweithio tuag at Ddull Sefydliad Cyfan lle gall yr holl staff a dysgwyr ffynnu. Mae Hyb ACE Cymru wedi cynorthwyo’r sector AB drwy: 

  • Ddatblygu Rhestr Chwarae, a gynhelir ar Hwb, gyda chyfres o adnoddau pwrpasol gan gynnwys ffilmiau wedi’u cydgynhyrchu sy’n dangos effaith gadarnhaol y gwaith ar ddysgwyr a staff. Dewch o hyd i’r Rhestr Chwarae yma, a gwyliwch y fideos yma (dolenni’n agor mewn ffenestr newydd).
  • Gwnaethom gydweithio â Phrifysgol Wrecsam i rannu arferion gorau ar sut i gynnwys dysgwyr ar daith sefydliad sy’n ystyriol o TrACE trwy bennod podlediad. Mae’r bennod hon yn arbennig o ddefnyddiol i’r rhai sy’n gweithio ym maes Addysg Bellach gan ei bod yn ystyried sut i gynnwys dysgwyr yn eu taith TrACE, ond mae hefyd yn archwilio effaith ehangach dulliau sy’n ystyriol o drawma, gan drafod sut y gellir cymhwyso’r egwyddorion hyn ar draws sectorau amrywiol a phwysigrwydd creu amgylcheddau diogel a chefnogol. Gallwch wrando arni yma: (mae’r ddolen yn agor mewn ffenestr newydd)
  • Cydgynhyrchu offer ychwanegol i helpu gyda gweithredu Pecyn Cymorth TrACE megis Canllaw i Greu Dangosyddion Llwyddiant TrACE a Chanllawiau ar gyfer Polisi ac Ymarfer sy’n Ystyriol o Drawma (mae’r ddau ar gael ar Gofod TrACE) 
  • Gwerthuso proses TrACE gyda’r sector i gasglu a rhannu dysgu o fewn y sector a chyda Llywodraeth Cymru i hyrwyddo cynaliadwyedd TrACE yn y sector AB. Darllenwch y gwerthusiad proses gychwynnol yma
  • Comisiynu gwerthusiad newydd yn 2024 o wreiddio Pecyn Cymorth Sefydliadau sy’n Ystyriol o Drawma ac ACE (TrACE) mewn lleoliadau Addysg Bellach ledled Cymru. Gallwch ddarllen yr adroddiad yma: (mae dolenni yn agor mewn ffenestr newydd) 
  • Cynorthwyo pob coleg i gwblhau ei gamau hunanasesu a chynllunio gweithredu yn y Pecyn Cymorth 
  • Cyflwyno pecyn Hyfforddi’r Hyfforddwr o hyfforddiant Addysg Bellach TrACE pwrpasol i 145 o staff coleg 

Mae Hyb ACE Cymru wedi bod yn gweithio gyda’r sector Camddefnyddio Sylweddau ers 2020 gyda chyllid ychwanegol gan Is-adran Polisi Camddefnyddio Sylweddau Llywodraeth Cymru wedi’i sicrhau yn 2022 i adeiladu ar y gwaith hwn. 

Mae Hyb ACE Cymru wedi cefnogi’r sector drwy: 

  • Yn ystod y cyfnod hwn, bu Hyb ACE Cymru yn gweithio gydag Eternal Media, gan ddod â lleisiau a phrofiadau pobl sydd wedi defnyddio gwasanaethau ar gyfer defnyddio sylweddau, a sut mae dull gweithredu sy’n ystyriol o drawma wedi newid eu bywydau, a bywydau pobl sydd wedi gweithio gyda nhw. Gwyliwch y fideos yma (dolenni’n agor mewn ffenestr newydd).
  • Ailgysylltu â’r Grŵp Cyfeirio Arbenigol ar Gamddefnyddio Sylweddau a ddaeth ynghyd yn wreiddiol i ystyried datblygu a chyflwyno hyfforddiant ACEau ar gyfer y sector drwy gydlynu cyfarfodydd rheolaidd ag Arweinwyr Byrddau Cynllunio Ardal a Llywodraeth Cymru 
  • Sefydlu Rhwydwaith Arweinwyr TrACE sydd wedi cysylltu arweinwyr allweddol sy’n defnyddio Pecyn Cymorth TrACE yn eu sefydliadau 
  • Cynorthwyo 7 sefydliad/gwasanaeth Camddefnyddio Sylweddau ledled Cymru i gychwyn ar eu taith â Phecyn Cymorth TrACE drwy ddarparu cymorth rheoli prosiect i arweinwyr allweddol a rhannu datblygiadau ac adnoddau parhaus i gefnogi hyn.  
  • Hyfforddi 50 o staff sy’n gweithio yn y sector i gyflwyno pecyn Hyfforddi’r Hyfforddwr TrACE pwrpasol. Mae hyn wedi cynnwys amrywiaeth o rolau staff o sefydliadau’r trydydd sector a’r sector cyhoeddus 
  • Yn y cyfnod hwn cynhaliodd ymgynghorydd annibynnol werthusiad o’r broses ym mis Mehefin 2023. Darganfyddwch fwy trwy gyrchu’r adroddiad yma, a gweminar yn trafod y gwerthusiad yma (dolenni’n agor mewn ffenestr newydd).

Gwerthusiad Pecyn Cymorth Sefydliadol sy’n ystyriol o Drawma a Phrofiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod (ACE)

Rydym yn falch iawn o fod yn gweithio gydag M·E·L Research sy’n gwerthuso effaith pecyn cymorth TrACE yn annibynnol, gan adrodd erbyn mis Mawrth 2025. Byddant yn ystyried sut mae'r pecyn cymorth wedi cael ei ddefnyddio, y newidadau sydd wedi cael eu gwneud, ac yn bwysig, beth mae'r newidiadau hynny yn golygu i'r bobl sy'n gweithio yn y gwasanaethau hynny ac yn eu defnyddio.

Fframwaith Gwerthuso

Rhowch wybod i ni os ydych chi’n defnyddio’r pecyn cymorth!