Nid yw’r digwyddiad hwn yn ymwneud ag adroddiad yn unig; mae’n ymwneud ag arddangos y gwaith sy’n mynd rhagddo ym mhob un o’r meysydd astudiaeth achos oddi mewn iddo; gan roi’r cyfle i ddysgu llawer mwy am y gwaith gwych, arloesol sy’n digwydd ledled Cymru gyda’r nod o wreiddio dull gweithredu sy’n seiliedig ar ystyriaeth o drawma ar lefel gymunedol.
Rydym wrth ein bodd bod Cymuned Dysgu Cynnar Betws, Prifysgol Glyndŵr Wrecsam, Heddlu Dyfed Powys a Chyngor Ceredigion yn ymuno â ni ar y diwrnod, sydd wedi cyd-gynhyrchu’r adroddiad er mwyn rhannu eu gwaith yn yr astudiaethau achos.
Bydd hefyd amrywiaeth o weithdai i rannu sut mae gwaith arall ledled Cymru yn cyfrannu at gymunedau sy’n ystyriol o drawma. Bydd mwy o fanylion yn dilyn ar ôl cofrestru.
Bydd yr adroddiad hwn yn cyfrannu’n uniongyrchol at ein dysgu wrth i ni gychwyn ar ein taith i roi’r Fframwaith Ymarfer Trawma Cenedlaethol ar waith ac mae’n gwneud cyfraniad pwysig at wybodaeth am sut y gallwn ddatblygu arfer sy’n seiliedig ar ystyriaeth o drawma ar lefel gymunedol.
Mae’n mynd i fod yn ddiwrnod llawn dop gyda chinio ysgafn yn cael ei ddarparu a chyfleoedd i rwydweithio. – Mwy o fanylion ar yr Agenda i ddilyn.
Prifysgol Aberystwyth University,
Penglais Campus Medrus Conference Centre
Prifysgol Aberystwyth University
Penglais
SY23 3FL