Ymunwch â ni i ddysgu mwy am Becyn Cymorth TrACE – Hyb ACE Cymru ein hadnodd blaenllaw ar gyfer cefnogi sefydliadau yng Nghymru i ddod yn ystyriol o ACE a thrawma.
Trwy fynychu’r gynhadledd hon – byddwch yn:
- Clywed gan siaradwyr gwych o sefydliadau sydd eisoes ar eu taith TrACE am y gwaith gwych, arloesol sy’n digwydd ledled Cymru a sut mae hyn yn cefnogi’n uniongyrchol y broses o roi Fframwaith Ystyriol o Drawma Cymru ar waith.
- Cael dealltwriaeth o’r effeithiau cadarnhaol a dysgu oddi wrth sectorau a sefydliadau eraill yng Nghymru sy’n rhoi’r pecyn cymorth ar waith
- Cofrestru ar gyfer gweithdai rhyngweithiol i ymchwilio’n ddyfnach i’r hyn y gallai’r pecyn cymorth ei wneud drosoch chi a’ch sefydliad
- Dysgu mwy am yr adnoddau newydd, wedi’u cydgynhyrchu, y byddwn yn eu lansio i gefnogi Cymru i ddod yn genedl sy’n Ystyriol o Drawma
- Clywed am offer newydd a chyfleoedd Rhwydweithio gyda sectorau eraill, gweithwyr proffesiynol o’r un anian a sefydliadau
Byddwch hefyd yn cael cyfle i gymryd rhan mewn gweithdai sy’n seiliedig ar chwe maes parth y pecyn cymorth ar draws y ddwy gynhadledd yn Aberystwyth a Chasnewydd: Arweinyddiaeth a Llywodraethu, Polisïau a Gweithdrefnau, Datblygu’r Gweithlu, Dylunio a Chyflenwi Gwasanaethau, Mannau Ffisegol a Monitro a Gwerthuso.
Cliciwch yma i gofrestru ar gyfer eich hoff leoliad
Cofrestru tocynnau
https://www.eventbrite.com/cc/join-us-on-our-ace-hub-wales-annual-conference-3054959?utm-campaign=social&utm-content=creatorshare&utm-medium=discovery&utm-term=odclsxcollection&utm-source=cp&aff=escb