Rydym wedi cydweithio â Straen Trawmatig Cymru i ddatblygu Fframwaith Ymarfer Trawma Cenedlaethol i Gymru, sy’n cynnwys pobl o bob oed, o blant a phobl ifanc yr holl ffordd at oedolion hŷn. Mae’r Fframwaith hwn wedi’i gyd-gynhyrchu â phobl a sefydliadau ledled Cymru, gyda grŵp cyfeirio arbenigol o weithwyr proffesiynol a phobl â phrofiad bywyd ac ymgynghoriad cyhoeddus. Cefnogir y Fframwaith gan Lywodraeth Cymru.
Nod y fframwaith yw helpu pobl, sefydliadau a systemau i atal adfyd a thrawma a’u heffeithiau negyddol cysylltiedig. Bydd yn hwyluso’r datblygiad o ymagwedd systemau cyfan at gefnogi anghenion pobl sydd wedi profi adfyd a thrawma ac yn ceisio dod â chysondeb a chydlyniad i gynorthwyo’r ymdrech honno a sicrhau ei fod yn ateb anghenion pobl sy’n cael eu heffeithio gan drawma.
Mae hyn yn ymestyn o’r angen am ymatebion empathig, tosturiol ar draws holl gymdeithas Cymru ac ymyriadau mwy acíwt ac arbenigol y gall fod eu hangen i gefnogi’r rhai sydd ag anghenion clinigol yn dilyn profiadau o drawma. Mae’r Fframwaith yn darparu diffiniadau cytûn a ddealltwriaeth cyson o’r hyn a olygir gan y gwahanol lefelau o ymarfer wrth atal adfyd a thrawma a chefnogi pobl y mae’n effeithio arnynt.
Agwedd Gymdeithasol at Ddeall, Atal a Chefnogi Effeithiau Trawma ac Adfyd.
Mynd i Gymru sy'n Ystyriol o Drawma