LEPH 2023 - Canolfan Adnoddau Cymru

LEPH2023 Ewrop yw’r gynhadledd ranbarthol Ewropeaidd gyntaf i ystyried croestoriadau cymhleth ac amrywiol gorfodi’r gyfraith ac iechyd cyhoeddus, sy’n cynnwys ymarferwyr, gwneuthurwyr polisi ac ymchwilwyr o’r sectorau hyn ac o sectorau cysylltiedig eraill. Mae’n parhau â chyfres gynadledda ryngwladol LEPH, gyda chyfle i ganolbwyntio ar faterion rhanbarthol allweddol.

Y brif thema ar gyfer LEPH2023 Ewrop yw ‘Gyda’n gilydd tuag at gymunedau cydnerth’, gan adeiladu ar gynadleddau LEPH blaenorol sydd wedi disgrifio a dadansoddi’r materion, astudio ystod enfawr o ymatebion gwirioneddol a phosibl ar raddfa fyd-eang a phwysleisio pwysigrwydd arweinyddiaeth gydweithredol mewn polisi ac arferion

Dysgwch fwy am y Gynhadledd yma.

Bydd Uned Atal Trais a Hyb Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod Cymru yn cyd-arwain dwy sesiwn fawr ddydd Mawrth 23 Mai. Sef:

Cymru – gwlad sy’n ystyriol o drawma: Gosod y sylfaen

Bydd y sesiwn hon yn edrych ar hanfodion y gwaith y mae’r Uned Atal Trais a Hyb Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod Cymru yn ei wneud i ddatblygu gwlad ystyriol o drawma. Dros y pum mlynedd diwethaf, rydym wedi datblygu ffyrdd o weithio yng Nghymru sy’n pontio’r croestoriad iechyd cyhoeddus a gorfodi’r gyfraith, ac yn hynny o beth, yn gosod y sylfeini i roi dulliau ac ymyriadau ar waith sy’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i’n cymunedau Cymreig amrywiol.

Darganfod mwy

Cymru: Ymyriadau ymarferol sy’n gweithio

Ar ôl gosod y sefyllfa a sylfeini’r gwaith, bydd y sesiwn nesaf yn cyflwyno rhai o’r gweithgareddau mwy ymarferol a’r ymyriadau sy’n arwain at ganlyniadau sydd wedi cefnogi cymunedau Cymru; a chyfle i drafod ‘beth sy’n gweithio’ i esgor ar gydweithredu effeithiol rhwng gorfodi’r gyfraith, iechyd cyhoeddus a chymdeithas Cymru.

Darganfod mwy