Cymru – gwlad sy’n ystyriol o drawma: Gosod y sylfaen

Bydd y sesiwn hon yn edrych ar hanfodion y gwaith y mae’r Uned Atal Trais a Hyb Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod Cymru yn ei wneud i ddatblygu gwlad ystyriol o drawma. Dros y pum mlynedd diwethaf, rydym wedi datblygu ffyrdd o weithio yng Nghymru sy’n pontio’r croestoriad iechyd cyhoeddus a gorfodi’r gyfraith, ac yn hynny o beth, yn gosod y sylfeini i roi dulliau ac ymyriadau ar waith sy’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i’n cymunedau Cymreig amrywiol.

Cadeirydd: Dr Joanne Hopkins, Cyfarwyddwr Rhaglen ar gyfer Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod, Cyfiawnder Troseddol ac Atal Trais, Iechyd Cyhoeddus Cymru

Bryony Parry, Arweinydd Cyfathrebu ac Ymgysylltu, Uned Atal Trais Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru

Bwriad Cymru yw rhoi terfyn ar drais ymhlith plant a phobl ifanc. Mae Fframwaith Cymru heb Drais ar gyfer gweithwyr proffesiynol, gwirfoddolwyr, cymunedau, plant a phobl ifanc sy’n barod i wireddu hyn.

Caiff ei lywio gan safbwyntiau a phrofiadau mwy na 1,000 o blant, pobl ifanc a gweithwyr proffesiynol yng Nghymru. Dyluniwyd y fframwaith hwn fel canllaw i atal trais sy’n seiliedig ar dystiolaeth ac sy’n adleisio lleisiau cymunedau. Arweiniodd yr Uned Atal Trais Cymru a Peer Action Collective Cymru ddatblygiad y Fframwaith.  Bydd y cyflwyniad yn cynnig gwybodaeth am y dull wedi’i lywio gan dystiolaeth ac wedi’i lunio ar y cyd arloesol a lywiodd y datblygiad ohono, yn ogystal â rhoi manylion ar y cysyniadau allweddol a amlinellir yn y Fframwaith, sy’n cynnwys y naw strategaeth sy’n greiddiol iddo, sy’n darparu map ar gyfer Cymru heb drais i’r dyfodol ar y cyd â’r naw egwyddor a luniwyd ar y cyd sy’n sail i ddull iechyd cyhoeddus y Fframwaith.

Dogfennau cefnogol:

Joseff Bromwell, Arweinydd Rhaglen, Hyb Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru

Rhwng 2017 a 2020, gweithiodd partneriaeth rhwng pedwar o heddluoedd Cymru, Barnardo’s Cymru, Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Fawrhydi ac Iechyd Cyhoeddus Cymru gyda’i gilydd i ddod â newid sylweddol yn niwylliant a gweithrediad plismona a chyfiawnder troseddol yng Nghymru.

Ceisiodd Rhaglen Camau Cynnar Gyda’n Gilydd i drawsnewid y ffordd y caiff plant ac oedolion agored i niwed ledled Cymru eu nodi a’u cefnogi, drwy ail-lunio’r ffordd rydym yn ystyried angen, cydnabod effeithiau dwys a pharhaol potensial profiadau niweidiol yn ystod plentyndod, mynd i’r afael â’r ffordd rydym yn cydweithio yn gynaliadwy, darparu llwybrau cymorth integredig sydd ar gael bob awr o’r dydd a’r nos, a throi’r fantol i flaenoriaethu gwaith atal ac ymyrryd yn gynnar.

Dogfennau cefnogol:

The Early Action Together Programme: Outcomes, impacts and lessons for future transformation – World Health Organization Collaborating Centre On Investment for Health and Well-being (phwwhocc.co.uk)

Dr Samia Addis, Ymchwilydd Iechyd Cyhoeddus, Iechyd Cyhoeddus Cymru

Mae’r deunydd darllen yn nodi y gall ymyriadau yn y gymuned feithrin cydnerthedd, cefnogi unigolion gyda gwasanaethau a meithrin cysylltiadau cryf. Ariennir yr astudiaeth ddwy ran hon gan Lywodraeth Cymru, gyda’r nod o archwilio prosiectau ac ymyriadau i atal a lliniaru profiadau niweidiol yn ystod plentyndod a thrallod yn ystod plentyndod ar lefel gymunedol yng Nghymru.

Nododd a mapiodd yr astudiaeth brosiectau cymunedol ledled Cymru; aeth y prosiectau hyn i’r afael ag amddifadedd, cefnogi iechyd meddwl a chorfforol a phontio’r bylchau yn y systemau presennol drwy ddarparu amrywiaeth o wasanaethau i aelodau’r gymuned. Cafodd y prosiectau hynny eu sefydlu yn aml mewn ymateb i angen cymunedol ac o ganlyniad, roeddent yn effeithiol wrth ddarparu ymateb wedi’i deilwra.

Dogfennau cefnogol:

What Works in the Prevention and Early Intervention of ACEs at the Community Level? Identifying and Supporting Projects across Wales

What Works to Prevent Adverse Childhood Experiences (ACEs) at the Community Level?

Emma Barton, Ymchwilydd Iechyd Cyhoeddus, Iechyd Cyhoeddus Cymru

Fel rhan o ddull iechyd cyhoeddus o atal trais, mae Uned Atal Trais Cymru wedi datblygu Porth Atal Trais Cymru, ar y cyd â Sefydliad Iechyd y Cyhoedd Prifysgol John Moores Lerpwl. Mae’r Porth yn llwyfan data ar-lein sy’n dal data dienw, gan alluogi defnyddwyr i gyfuno a chyflwyno ffynonellau data gwahanol ar drais, gan gynnwys data iechyd a data’r heddlu, er mwyn llywio ymarfer gweithredol a strategol.

Pwrpas y Porth Atal Trais yw galluogi rhannu’r gwaith o gasglu data yn systematig o ffynonellau amrywiol, er mwyn gwella cydweithredu amlasiantaethol mewn atal trais ac i sicrhau bod atebion atal trais yn seiliedig ar y dystiolaeth o angen gorau sydd ar gael. Y Porth:

  • Mae’n galluogi defnyddwyr i nodi a monitro tueddiadau mewn trais ar lefel genedlaethol a lleol yng Nghymru;
  • Mae’n helpu partneriaid lleol ar gudd-wybodaeth am drais ac anafiadau yn sgil ymosodiad;
  • Mae’n llywio strategaethau atal trais drwy ddarparu data lefel poblogaeth er mwyn helpu i nodi’r grwpiau sy’n wynebu risg;
  • Mae’n darparu llwyfan amlasiantaethol i ddefnyddio data a gasglwyd fel mater o arfer i werthuso effaith ymyriadau.

Dr Gordon Hay, Darllenydd mewn Epidemioleg Gymdeithasol, Prifysgol John Moores Lerpwl ac Emma Barton, Ymchwilydd Iechyd Cyhoeddus, Iechyd Cyhoeddus Cymru

Mae’r dystiolaeth yn awgrymu bod mesurau cyfyngiadau symud COVID-19 wedi cael effaith ar amlygrwydd ac ar yr achosion o drais a brofwyd mewn ‘lleoedd preifat’ fel y cartref ac ar-lein.

Cafodd pryderon eu codi ynghylch effeithiau anuniongyrchol a chudd hirdymor y mesurau hyn a’r angen am yr adnoddau methodolegol iawn i alluogi amcangyfrifon dibynadwy o ran amlygrwydd a’r achosion o drais. Gall datblygu adnoddau dilys helpu i nodi niwed cudd a llywio mesurau effeithiol i gefnogi dioddefwyr.

Er bod methodoleg dal-dal o’r newydd wedi bod yn llwyddiannus wrth amcangyfrif materion cysylltiedig ag iechyd cyhoeddus, prin y mae wedi’i ddefnyddio i amcangyfrif amlygrwydd trais. Fodd bynnag, nid yw’r dull dal-dal o’r newydd yn cydnabod bod trais wedi’i guddio yn aml iawn. Er enghraifft, nid yw pob digwyddiad sy’n cynnwys trais yn arwain at unigolyn yn mynd i’r Adran Frys, ac nid yw’r Heddlu ynghlwm â phob achos o drais sydd wedi digwydd. O wybod nifer gwirioneddol y digwyddiadau treisgar a ddynodwyd gan yr Heddlu a digwyddiadau treisgar newydd eu dynodi o Adrannau Brys (unigolion sy’n mynd i’r Adran Frys gydag anaf yn sgil ymosodiad cysylltiedig â thrais nad yw’r heddlu wedi cael gwybod amdano), gellir cadarnhau cyfran y digwyddiadau trais a ddaliwyd – a darparu cymhareb o ddioddefwyr trais i gyfanswm poblogaeth y dioddefwyr trais. Mae hyn yn rhoi amcangyfrif o amlygrwydd ‘niwed cudd’ ar draws y boblogaeth.

Mae’r astudiaeth hon yn ystyried p’un a yw methodoleg dal-dal o’r newydd yn adnodd dibynadwy i ddadansoddi data gwyliadwriaeth ar drais a chreu amcangyfrifon o amlygrwydd; a defnyddio methodoleg dal-dal o’r newydd i wneud amcangyfrifon o amlygrwydd trais lefel poblogaeth yn ystod pandemig COVID-19 o gymharu â’r blynyddoedd blaenorol.

Yn ôl i Leph 2023