Hyfforddiant a Chymorth i’r Gweithlu

Mae’r maes hwn yn ymwneud â datblygu a chefnogi pobl yn y sefydliad i gael yr wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen arnynt i alluogi i ymarfer sy’n ystyriol o drawma ac ACE (TraCE) gael ei ymgorffori a’i gynnal. Nod y maes hwn yw helpu sefydliadau ar eu taith TrACE i sefydlu diwylliant o gylchoedd dysgu cefnogol parhaus sy'n cydnabod pwysigrwydd llesiant a diogelwch y gweithlu ac yn darparu offer ac adnoddau i ymgorffori’r ymarfer hwn.

Gall strategaeth hyfforddi a datblygu’r gweithlu nodi’r blaenoriaethau a chyfleu canlyniadau’r dull hwn i helpu staff a gwirfoddolwyr i gael y sgiliau a’r wybodaeth am brofiadau ACE, trawma a thrallodau ehangach a’u heffaith bosibl, ac i allu ymateb i hynny yn briodol yn eu gwaith, ac i gefnogi ei gilydd trwy ddarparu hyfforddiant ac adnoddau ar lefel ymarfer briodol o Fframwaith Cymru sy’n Ystyriol o Drawma. Mae cyhoeddi’r strategaeth a’i hyrwyddo hefyd yn ffordd bwysig o gynnal y negeseuon ynghylch pam mae'r sefydliad yn rhoi pecyn cymorth TrACE ar waith, sut y gall defnyddio dull sy’n ystyriol o drawma a phrofiadau ACE atal a lliniaru niwed pellach, ac ymrwymiad y sefydliad i roi’r sgiliau sydd eu hangen ar staff a gwirfoddolwyr i allu gwneud hyn.

Mae adnoddau ac offer sy'n cefnogi hyn i'w cael yn y maes hwn a dylid ystyried darparu cyfleoedd goruchwylio ac ymarfer myfyriol rheolaidd i hyrwyddo llesiant staff a meithrin diwylliant o ddysgu parhaus i ymgorffori a chynnal y strategaeth hyfforddi fel rhan ohoni.

Yn y fideo hwn mae Emma, ein Rheolwr Prosiect TrACE,  ​yn rhoi trosolwg byr o faes hyfforddiant a chymorth y gweithlu.

Adnoddau

Yma fe gewch adnoddau a fydd yn helpu i ddatblygu dull sefydliadol o ymdrin â gweithlu, hyfforddiant a chymorth sy’n ystyriol o drawma ac ACE.

Pecyn ar Sut i Ddechrau Arni gydag Ymarfer Myfyriol

Mae Ymarfer Myfyriol yn ffordd o ddisgrifio’r holl ffyrdd ymarferol sydd gennym o feithrin ein gallu myfyriol fel bod gennym yr amgylchiadau i ystyried, prosesu a gwneud synnwyr o’r hyn sy’n digwydd fel rhan o gylchred parhaus o greu gwybodaeth sy’n llywio ymddygiadau a gweithredoedd. Mae myfyrio yn ymwneud â bod yn atebol a chymryd cyfrifoldeb priodol am ddysgu.

Mae ymarfer myfyriol yn hanfodol i sicrhau bod yr hyn rydym yn ei wneud a sut rydym yn ei wneud yn cael ei ystyried yn barhaus. Mae llawer o'n sefydliadau'n gweithio gyda phobl sy’n profi trallod ac sy’n wynebu sefyllfaoedd cymhleth a heriol. Gall hyn wneud i ni deimlo’n rhwystredig, yn flinedig, yn anobeithiol neu’n flin. Gall hyn effeithio ar y ffordd rydym yn gweithio gyda phobl, a gall hefyd effeithio ar ein bywydau ein hunain. Un ffordd y gallwn ofalu am ein gilydd ac ar ôl ein hunain yw trwy wneud lle i feddwl a myfyrio am yr hyn rydym yn ei wneud a sut rydym yn ei wneud.

Mae’r Pecyn Dechrau arni gydag Ymarfer Myfyriol hwn wedi’i gynllunio i fod yn fan cychwyn ymarferol ar gyfer y sgyrsiau cymhleth hyn ac i gefnogi’r gwaith o ddatblygu diwylliant myfyriol a dysgu o fewn eich tîm, eich sefydliad neu i chi’ch hun. Nod y pecyn hwn yw helpu pawb sy'n ymwneud â bod yn ystyriol o TrACE i gymryd camau i gynnwys ymarfer myfyriol yn eu gwaith o ddydd i ddydd. Drwy wneud hynny, bydd y sefydliad yn elwa ar ddiwylliant dysgu cryf, sydd wedi’i wreiddio mewn gwelliant parhaus sy’n cynnwys yr hyn sydd wedi’i wneud, sut y cafodd ei wneud a sut roedd hynny’n teimlo i’r bobl dan sylw fel y gellir ymgorffori arferion da ymhellach a nodi meysydd i’w hadolygu a’u datblygu ymhellach.

Nid yw Hyb ACE Cymru yn gyfrifol am gyfieithu’r canllaw hwn. Byddwn yn ei ddiweddaru mor fuan ag y bydd y fersiwn Cymraeg ar gael gan y sefydliadau arweiniol.

PDF

Cwrs e-ddysgu Cyflwyniad i Brofiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod (ACEs) ac Ymarfer sy'n Ystyriol o Drawma

Mae’r cwrs e-ddysgu, a ddatblygwyd gan Hyb ACE Cymru gyda phobl a sefydliadau ledled Cymru, ar gael i bawb a gellir ei gyrchu yn yr adran adnoddau hyfforddi ar wefan Hyb ACE Cymru (Button below). Bydd y dysgu pen desg byr hwn yn cymryd tua 60 munud i’w gwblhau a bydd yn rhoi dealltwriaeth sylfaenol am Brofiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod (ACEs), a chyflwyniad i Fframwaith Cymru sy’n Ystyriol o Drawma.

Mae adnoddau e-Ddysgu Hyb ACE Cymru yn cael ei gynnig ar lefel ymarfer ‘ystyriol o drawma’ Fframwaith Cymru sy’n Ystyriol o Drawma. Mae’r lefel ymarfer ystyriol o drawma yn ddull gweithredu cyffredinol sy’n pwysleisio’r rôl sydd gan bob un ohonom i’w chwarae fel aelodau o gymdeithas Cymru, ar lefel bersonol a phroffesiynol. Y nod yw ceisio codi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth. Mae’r cwrs hwn yn cynnwys cyflwyniad i’r derminoleg a ddefnyddir, ac yn darparu dealltwriaeth sylfaenol sy’n seiliedig ar dystiolaeth o brofiadau ACE a digwyddiadau trawmatig. Mae hefyd yn cyflwyno’r dull gweithredu cynhwysol wedi’i gyd-gynhyrchu, sy’n seiliedig ar gryfderau, sydd wedi ei gynnwys yn Fframwaith Cymru sy’n Ystyriol o Drawma. Bydd pawb sy'n cwblhau'r cwrs yn cael tystysgrif.

Os hoffech drafod cynnwys y cwrs e-ddysgu yn System Rheoli Dysgu eich sefydliad anfonwch neges at y tîm i: ace@wales.nhs.uk

e-Ddysgu

Hyfforddiant ac Adnoddau Ystyriol o Drawma: Mapio a Bylchau

Mae’r adroddiad hwn, sydd ar gael ar wefan Fframwaith Cymru sy’n Ystyriol o Drawma, yn ystyried hyfforddiant ac adnoddau a ddisgrifir fel dulliau gweithredu sy’n ystyriol o drawma yng Nghymru, a sut maent yn cyd-fynd ag egwyddorion a lefelau ymarfer Fframwaith Cymru sy’n Ystyriol o Drawma. Mae'r ymchwil a gynhaliwyd yn ceisio deall yr heriau i ddarparwyr o ran deall y Fframwaith ac asesu sut mae eu deunyddiau'n cyd-fynd ag ef, a sut y gellid goresgyn yr heriau hyn.

Darllenwch fwy yma