#AmseriFodynGaredig – ein hymgyrch newid ymddygiad 2021

Roedd bywyd yn ystod y pandemig yn gyfnod anodd i bawb, yn arbennig i’n pobl ifanc, gyda llawer yn profi unigedd, straen a gorbryder. Fe wnaeth COVID-19 waethygu profiad plant sydd mewn perygl o gael ACEs neu sy'n eu profi yn y cartref. Roedd diffyg mynediad at ffrindiau ysgol, athrawon, gweithwyr cymdeithasol a'r lle a'r gwasanaethau diogel y mae ysgolion yn eu darparu yn golygu bod mwy o blant yn methu cael eu lleisiau clywed neu gyrchu ffactorau cymorth/amddiffynnol.

Yn dilyn llwyddiant ein hymgyrch #Amser i Fod yn Garedig gyntaf, fe wnaethom gynnal ein hymgyrch newid ymddygiad.

Y nod y tro hwn oedd gyrru ymwybyddiaeth o Brofiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod (ACEs) a chefnogi’r bobl ifanc a brofodd anawsterau yn ystod pandemig COVID-19 drwy annog caredigrwydd ledled y wlad.

 

Negeseuon Allweddol yr ymgyrch

Amlygodd ein negeseuon, y tu ôl i ddrysau caeëdig, gallai fod plentyn a theulu sy'n ei chael hi'n anodd.

  • Dim ond eiliad y mae estyn allan yn ei gymryd, ond gall wneud byd o wahaniaeth.

  • Fe wnaethom annog pobl i estyn allan, gwneud yr alwad, anfon y neges destun.

  • Perthynas a charedigrwydd yw'r mathau mwyaf pwerus o therapi dynol, a gallant gael effaith iachau ar unrhyw un.

Gwerthusiad yr Ymgyrch

Gwerthuswyd ffilm yr ymgyrch hefyd yn annibynnol gan Brifysgol Bangor. Ceisiodd y gwerthusiad adnabod a fyddai gwylio ein ffilm yn cynyddu bwriadau pobl i ymddwyn mewn ffyrdd sy'n hyrwyddo caredigrwydd at eraill ac os oedd bwriadau yn gysylltiedig â chael eich effiethio'n emosiynol gan y ffilm.

Dangosodd canfyddiadau fod gan y cyhoedd agweddau cadarnhaol at y ffilm #AmseriFodynGaredig. O ganlyniad i wylio, adroddodd y rhan fwyaf o bobl am fwriadau i fod yn garedicach at eraill, hyd yn oed mwy felly i'r rhai a gafodd eu heffeithio'n emosiynol (e.e teimlo'n ofidus neu drist) o'i gwylio.

Mae canfyddiadau'r gwerthusiad wedi helpu i ddangos nid yn unig fod ein ffilm wedi cael effaith, ond hefyd sut mae ffilmiau yn gallu bod yn declyn offeryn iechyd cyhoeddus gwych i hyrwyddo caredigrwydd a'u bod yn ddefnyddiol i ymgyrchoedd neu negeseuon iechyd cyhoeddus yn y dyfodol sy'n dymuno hyrwyddo newid ymddygiad.

Darllenwch y gwerthusiad llawn yma