Cafodd ymgyrch flaenllaw Hyb ACE Cymru — #AmseriFodynGaredig — ei lansio yn 2019 gyda’r nod o hyrwyddo caredigrwydd a datblygu “Cymru sy’n ymwybodol o ACE” trwy annog dealltwriaeth a thrugaredd tuag at bobl sydd wedi eu heffeithio gan Brofiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod (ACE).
Sawl blwyddyn yn ddiweddarach, mae Hyb ACE Cymru bellach yn cyd-arwain gwaith gyda phobl a sefydliadau ledled Cymru i greu cenedl sy’n ystyriol o drawma. Er mwyn helpu i gyflawni’r nod yma o Gymru sy’n ystyriol o drawma, mae’r rhan yma o’r ymgyrch yn adeiladu ar lwyddiant blynyddoedd blaenorol trwy greu hysbyseb deledu llawn emosiwn sy’n annog creu cymdeithas fwy caredig fel bod pawb yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi i ffynnu.
Gan fod bron i hanner y bobl yng Nghymru wedi profi ACE yn ystod plentyndod, ein hamcan oedd dechrau newid agweddau tuag at y rhai sydd wedi profi ACE a chreu “Cymru sy’n fwy ystyriol o ACE” trwy annog pobl i fod yn dosturiol a deall y gall pawb chwarae rhan wrth adeiladu gwytnwch mewn plant.
Yn 2019, buom yn gweithio gyda Cowshed i gynnal ein hymgyrch ymwybyddiaeth gyhoeddus bedair wythnos gyntaf ledled Cymru.
Gan fod bron i hanner y bobl yng Nghymru wedi profi ACE yn ystod plentyndod, ein hamcan oedd dechrau newid agweddau tuag at y rhai sydd wedi profi ACE a chreu “Cymru sy’n fwy ystyriol o ACE” trwy annog pobl i fod yn dosturiol a deall y gall pawb chwarae rhan wrth adeiladu gwytnwch mewn plant.
Buom yn gweithio gyda’r neges #AmseriFodynGaredig gan ddefnyddio ymgyrch hysbysebu teledu genedlaethol wedi’i thargedu at bob oedolyn yng Nghymru a thrwy hysbysebu digidol ar YouTube TrueView. Fe wnaethom hefyd ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol i rannu fideo’r hysbyseb, annog pobl i ddangos gweithredoedd caredig a gofyn i bobl rannu eu straeon caredigrwydd.
Saith darn o sylw yn y wasg, gan gynnwys un darn o sylw darlledu drwy gydol cyfnod yr ymgyrch.
Cyflawnodd yr hysbyseb deledu 2,182,233 o argraffiadau ledled Cymru.
Clywsom fod yr ymgyrch hon yn ymarfer codi ymwybyddiaeth cychwynnol gwych ond er mwyn annog newid ymddygiad, roedd angen ymgyrch hirach a mwy cadarn.