Yr hyn a wnawn

Mae Hyb ACE Cymru yn rhan o Ganolfan Gydweithredol Sefydliad Iechyd y Byd (WHO CC) yn Iechyd Cyhoeddus Cymru ac yn cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru. Sefydlwyd yr Hyb yn 2017.

Sefydlwyd Hyb ACE Cymru i gefnogi cymdeithas yng Nghymru i helpu i greu Cymru sy’n Ystyriol o ACEs a gwneud Cymru’n arweinydd o ran mynd i’r afael ag ACEs, eu hatal a’u lliniaru. Rydym yn hyrwyddo rhannu syniadau a dysgu, ac yn herio a newid ffyrdd o weithio, fel y gallwn gyda’n gilydd dorri’r cylch ACEs.

Nododd Astudiaeth ACE gyntaf Cymru y perthnasoedd cryf rhwng trawma yn ystod plentyndod ac iechyd gwael ar draws hynt bywyd yng Nghymru, gan gynnwys risg uwch o ymddygiadau sy’n niweidio iechyd, lles meddyliol isel a datblygiad cynnar o glefyd cronig. Roedd ei ganfyddiadau’n gyson â chorff cynyddol o dystiolaeth o wledydd eraill.

Darllenwch fwy am yr ymchwil

Ein 5 Nod

  • Rhannu hysbysrwydd a gwybodaeth am ACEs, gwrando a gweithio gydag asiantaethau partner sy'n ymgysylltu â chymunedau, plant a theuluoedd i ganfod atebion fydd yn gweithio.

  • Rhannu tystiolaeth am beth mae sefydliadau yn gallu gwneud yn wahanol i helpu atal a lliniaru ACEs, a sut maen nhw'n cynorthwyo'r rheini sydd wedi profi ACEs neu drawma.

  • Datblygu gwybodaeth a sgiliau ymhlith gweithwyr proffesiynol, er mwyn iddynt herio rhwydweithiau mewnol ac allanol a gyrru newid.

  • Dysgu oddi wrth ein gilydd, rhannu gwybodaeth a darparu arbenigedd sy'n arwain at weithredu.

  • Gyrru newid trwy ffyrdd heriol o weithio, ledled Cymru.

Rhaglenni Partner

Rydym yn cydweithio â phartneriaid i’n helpu i gyflawni ein nodau.

  • Uned Atal Trais Cymru

    Sefydlwyd Uned Atal Trais Cymru drwy gyllid gan y Swyddfa Gartref yn 2019. Cenhadaeth y VPU yw atal pob math o drais yng Nghymru drwy fabwysiadu dull iechyd cyhoeddus o atal trais. Mae hyn yn golygu ein bod yn ceisio deall achosion trais ar sail tystiolaeth.

  • Cymunedau Mwy Diogel Cymru

    Sefydlwyd Rhwydwaith Cymunedau Mwy Diogel Cymru ym mis Ionawr 2021 yn dilyn argymhellion Adolygiad Gweithio Gyda’n Gilydd i greu Cymunedau Mwy Diogel 2017 Llywodraeth Cymru.

    Ein cenhadaeth yw dod yn llais strategol ar gyfer diogelwch cymunedol yng Nghymru, gan gydweithio gyda’n haelodau i hyrwyddo a chefnogi gwaith partneriaeth diogelwch cymunedol a dylanwadu ar lunio a datblygu polisïau cenedlaethol ac ymarfer lleol.

  • Straen Trawmatig Cymru

    Nod Straen Trawmatig Cymru, sy’n cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru, yw gwella iechyd a lles pobl o bob oedran sy’n byw yng Nghymru gydag anhwylder straen wedi trawma (PTSD) neu anhwylder straen wedi trawma cymhleth (CPTSD), neu sydd mewn perygl o ddatblygu’r rhain.