Mae’r sesiwn hon yn nodi ein dull methodolegol o newid systemau cyfan yng Nghymru er mwyn cyflawni uchelgais ‘Gymru Heb Drais’. Mae gwaith helaeth dros y ddwy flynedd ddiwethaf wedi arwain at Fframwaith Cymru Heb Drais, sef Fframwaith a gaiff ei gyd-gynhyrchu sy’n cael ei arwain gan dystiolaeth, sy’n ystyriol o drawma ac sy’n cynnig naw strategaeth ar gyfer atal trais rhwng plant a phobl ifanc. Bydd y dull arloesol hwn yn cael ei archwilio o ran sut y cafodd ei gyd-gynhyrchu a rôl gwyddor ymddygiad wrth ddylanwadu ar y newid ymddygiad yr ydym am ei weld.
Cadeirydd:
Dr Joanne Hopkins, Iechyd Cyhoeddus Cymru ac Athro Gwadd, Prifysgol Wrecsam
Emma Barton, Tîm Atal Trais, Iechyd Cyhoeddus Cymru
Mae trais ymhlith plant a phobl ifanc (PPI) yn fater cymdeithasol cymhleth sy’n cael effeithiau niweidiol ar iechyd a lles plant, pobl ifanc ac oedolion drwy gydol eu bywydau. Mae ymchwil i iechyd poblogaethau’n dweud wrthym fod plant a phobl ifanc mewn perygl andwyol o brofi trais, a’u bod mewn mwy o berygl o brofi sawl math o drais. Fodd bynnag, mae tystiolaeth yn awgrymu bod dulliau atal yn fwyaf effeithiol pan gânt eu gweithredu gyda phlant a phobl ifanc, ac y gallant gael effeithiau cadarnhaol o ran iechyd a lles ac effeithiau cymdeithasol cadarnhaol dros gyfnod oes.
Mae Tîm Atal Trais Iechyd Cyhoeddus Cymru a Peer Action Collective Cymru wedi cyd-gynhyrchu fframwaith amlasiantaethol strategol ar gyfer atal trais ymhlith plant a phobl ifanc yng Nghymru. Y fframwaith cenedlaethol hwn yw’r cyntaf o’i fath i gael ei ddatblygu yn y Deyrnas Unedig, ac mae’n gweithredu fel canllaw i gamau strategol ar atal trais ymhlith pobl ifanc, gan chwyddo lleisiau plant a phobl ifanc, a darparu tystiolaeth o’r ‘hyn sy’n gweithio’ o ran atal.
Nid oes un ateb cyffredinol nac un asiantaeth sydd â’r atebion i atal trais ieuenctid. Yn hytrach, mae angen i ni gydweithio i ddatblygu dull systemau cyfan a fydd yn galw ar bawb i weithredu. Defnyddiodd y fframwaith hwn sydd wedi’i lunio ar y cyd ac sy’n seiliedig ar dystiolaeth, broses ddylunio gyfranogol ac arloesol i wrando ar leisiau ystod amrywiol o randdeiliaid, gan amlygu lleisiau plant a phobl ifanc. Mae’r Fframwaith wedi’i lywio gan safbwyntiau a phrofiadau dros 1,000 o bobl yng Nghymru, ac mae wedi’i seilio ar brofiadau bywyd tua 500 o blant a phobl ifanc; mae’n cynnig naw strategaeth i atal trais ymhlith plant a phobl ifanc fel rhan o ddull iechyd cyhoeddus o atal trais. Mae’r strategaethau hyn yn ddulliau sy’n seiliedig ar dystiolaeth, ac maent wedi’u profi i leihau trais ymhlith plant a phobl ifanc, mynd i’r afael â’r ffactorau risg ar gyfer trais ieuenctid, a meithrin gwydnwch unigol, cymunedol a chymdeithasol.
Adnoddau Defnyddiol
Bryony Parry, Tîm Atal Trais, Iechyd Cyhoeddus Cymru
Mae ymgorffori dull iechyd cyhoeddus o atal trais yn gofyn am newid ymddygiad proffesiynol a thrawsnewid systemig.
Mae modelau newid ymddygiad yn fuddiol wrth archwilio dylanwadau ar ymarfer proffesiynol. Yn dilyn cyhoeddi Fframwaith Cymru Heb Drais, mae Tîm Atal Trais Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi bod ar daith i archwilio sut y gellir defnyddio gwyddor ymddygiad i gefnogi gweithredu dull iechyd cyhoeddus o atal trais. Gan ddefnyddio naw egwyddor atal trais y Fframwaith fel sylfaen, ymgysylltodd y tîm â gweithwyr proffesiynol ar draws sawl sector ledled Cymru i drosi’r egwyddorion hyn yn ymarfer trwy nodi ymddygiadau craidd. Yna gwnaeth hyn alluogi trafodaeth ar yr heriau o ysgogi ymddygiadau o’r fath, gan ddefnyddio’r model COM-B.
Bydd y cyflwyniad hwn yn nodi’r broses a ddatblygwyd gan y tîm i archwilio’r ymddygiadau sy’n sail i ddull iechyd cyhoeddus a’r rhwystrau i’w mabwysiadu. Bydd hefyd yn archwilio’r rhwystrau a’r hwyluswyr cymhleth a thrawsbynciol y mae gweithwyr proffesiynol yn eu hwynebu wrth weithredu dull iechyd cyhoeddus, ar lefel yr unigolyn a’r system, er mwyn galluogi ystyriaeth o’r gefnogaeth broffesiynol sydd ei hangen i ymgorffori’r dull hwn.
Adnoddau Defnyddiol
Gwefan Cymru Heb Drais: yn cynnwys y Fframwaith ac adnoddau ychwanegol i ategu dealltwriaeth a gweithrediad.
Gwefan yr Uned Gwyddorau: yn cynnwys canllaw ar gyfer pob un o chwe cham y broses gwyddor ymddygiad.
Yr Olwyn Newid Ymddygiad: yn nodi swyddogaethau a chategorïau ymyrryd sy’n cyfateb i’r model COM-B.
Joseff Bromwell, Hyb ACE Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru
Bu Hyb ACE Cymru yn gweithio mewn partneriaeth â Rhwydwaith Cydgynhyrchu Cymru ac arweinwyr cymunedol i archwilio sut y gall y system ehangach gefnogi cymunedau i wneud y mwyaf o brofiadau cadarnhaol o dosturi, caredigrwydd, cynhwysiant a dynoliaeth wrth i ni ymdrechu am genedl wybodus sy’n ystyriol o drawma a phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod. Bydd y cyflwyniad hwn yn edrych ar sut yr oedd y gwaith yn troi at gyfleoedd a gyd-ddyluniwyd i gymunedau o ran lle, diddordeb neu brofiad gael sgyrsiau am y pynciau sydd bwysicaf iddynt er mwyn hyrwyddo ein dealltwriaeth o pam mae pobl yn cael eu cymell i fod yn rhan o gyd-gynhyrchu. Nod y gwaith oedd cyd-greu tapestri o leisiau sy’n cynrychioli unigolion a chymunedau o bob cwr o Gymru, gan sicrhau bod ein profiadau cadarnhaol o obaith, cariad a thrugaredd sy’n bodoli ochr yn ochr â’r heriau yr ydym yn eu hwynebu, yn unigol ac ar y cyd, yn cael eu clywed.
Dr Joanne Hopkins, Iechyd Cyhoeddus Cymru ac Athro Gwadd, Prifysgol Wrecsam
Lansiodd y Glasbrint Cyfiawnder Menywod a Hyb Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod (ACE) Cymru yr adroddiad ymchwil: ‘Deall anghenion iechyd menywod sydd mewn perygl o ymuno â’r system cyfiawnder troseddol yng Ngogledd Cymru’ eleni.
Trwy waith y Glasbrint Cyfiawnder Menywod, cydnabuwyd bod cydberthynas rhwng iechyd ac ymwneud â’r system cyfiawnder troseddol. Gyda chyllid gan Hyb ACE Cymru, comisiynodd y Glasbrint yr ymchwil i archwilio hyn ymhellach.
Mae’r astudiaeth hon, a gynhaliwyd gan Connie Williams o’r Wallich, yn ymchwilio i anghenion gofal iechyd, rhwystrau i fynediad, a rôl anghenion iechyd heb eu diwallu ar gyfer menywod yn y system cyfiawnder troseddol, neu sydd mewn perygl o ymuno â hi. Mae’r ymchwil yn canolbwyntio ar brofiadau uniongyrchol menywod yng Ngogledd Cymru, cyn unrhyw gysylltiad â’r system cyfiawnder troseddol mewn perthynas â’u hanghenion iechyd sylfaenol (iechyd meddwl a chorfforol). Defnyddiodd yr ymchwil ddulliau cymysg, gan gynnwys grŵp ffocws gyda gweithwyr proffesiynol, a holiaduron a chyfweliadau i gasglu profiadau uniongyrchol menywod.
Cyflwynwyd yr adroddiad i ymarferwyr prawf ac iechyd yn Sioe Deithiol Iechyd Gwasanaeth Carchardai a Phrawf EF yng Nghymru yng Nghanolfan Menywod Gogledd Cymru.
Adnoddau Defnyddiol