Cynhadledd Gorfodi’r Gyfraith ac Iechyd y Cyhoedd 2025

Mae Cynhadledd Gorfodi’r Gyfraith ac Iechyd y Cyhoedd yn gyfle i arddangos, rhannu dysgu ac archwilio partneriaethau a chydweithrediadau arloesol rhwng y sector gorfodi’r gyfraith a’r sector iechyd cyhoeddus sy’n helpu i unioni anghydraddoldebau a hyrwyddo cymunedau iach, diogel a sicr.

Dyma fydd y seithfed Gynhadledd Ryngwladol ar Orfodi’r Gyfraith ac Iechyd y Cyhoedd, a’r thema gyffredinol fydd Tuag at Wladwriaeth Iachach a Mwy Cyfartal.

Eleni, bydd Hyb ACE Cymru, Tîm Atal Trais Prifysgol Bangor, a Phrifysgol Wrecsam yn arddangos y dull uchelgeisiol y mae Cymru yn ei fabwysiadu ar draws sectorau datganoledig a’r rhai heb eu datganoli i atal trais a lliniaru effaith trawma ac anffawd, gan adeiladu ar y dystiolaeth wrth flaenoriaethu cydweithio a chyfranogiad a chanolbwyntio ar leisiau cymunedau a’r rhai a glywir leiaf aml.

Trwy ddwy sesiwn banel, bydd y cyflwynwyr yn archwilio’r daith y mae Cymru’n ei chymryd i ddod yn genedl sy’n ystyriol o drawma ac yn myfyrio ar heriau a llwyddiannau gweithio mewn partneriaeth ar gyfer newid systemau cyfan.  Bydd dwy sesiwn y Farchnadfa Syniadau yn galluogi archwilio’n ddyfnach i gyfleoedd methodolegau ymchwil creadigol i chwyddo lleisiau nas clywir a phwysigrwydd adrodd straeon – a gwrando – wrth ddatblygu doethineb am brofiadau pobl nad ydynt yn aml yn cael cyfle i ddweud eu dweud.

Mae mwy o wybodaeth am y Gynhadledd yma.
Gallwch ddarllen mwy am gynnwys pob sesiwn isod.

Ydych chi'n Gweld Fy Nhrawma?

Bydd y sesiwn hon yn edrych ar y daith rydym yn ei chynnal yng Nghymru i archwilio a deall sut mae profiadau o hiliaeth a gwahaniaethu sy’n pontio’r cenedlaethau yn cael eu deall to safbwynt sy’n ystyriol o drawma. Mae'r gwaith hwn yn cefnogi’r gwaith o ddatblygu adnoddau a chanllawiau i gyflawni ymrwymiad Cymru i ddod yn genedl wrth-hiliol erbyn 2030, ac amcanion penodol cynllun gwrth-hiliol ein System Cyfiawnder Troseddol. Mae'r sesiwn hon yn cydnabod sut, wrth ddatblygu ein dull o greu Cymru sy'n ystyriol o drawma drwy wneud pethau’r ffordd rydym bob amser wedi’u gwneud; rydyn ni wedi bod yn gyfrannog wrth gadw'r ymylon o'r canol ac o ran sut rydyn ni'n mynd i'r afael â'r canlyniad anfwriadol hwn i’n gwaith.

Mwy o wybodaeth

Cefnogi Newid Systemau Cyfan ar gyfer Atal Trais yng Nghymru

Mae'r sesiwn hon yn nodi ein dull methodolegol o newid systemau cyfan yng Nghymru er mwyn cyflawni uchelgais 'Gymru Heb Drais'. Mae gwaith helaeth dros y ddwy flynedd ddiwethaf wedi arwain at Fframwaith Cymru Heb Drais, sef Fframwaith a gaiff ei gyd-gynhyrchu sy'n cael ei arwain gan dystiolaeth, sy’n ystyriol o drawma ac sy'n cynnig naw strategaeth ar gyfer atal trais rhwng plant a phobl ifanc. Bydd y dull arloesol hwn yn cael ei archwilio o ran sut y cafodd ei gyd-gynhyrchu a rôl gwyddor ymddygiad wrth ddylanwadu ar y newid ymddygiad yr ydym am ei weld.

Mwy o wybodaeth