Yn dilyn cynadleddau hynod lwyddiannus yng Ngogledd America, Affrica, Ewrop ac Awstralia, mae digwyddiad byd-eang 2026 yn Leeds yn gyfle unigryw i roi sylw i ymchwil fyd-eang ac arfer blaenllaw yn y byd ar draws gorfodi'r gyfraith ac iechyd y cyhoedd. Y thema gyffredinol ar gyfer 2026 fydd bregusrwydd, plismona ac iechyd y cyhoedd.
Bydd y gynhadledd ar agor i asiantaethau gorfodi’r gyfraith ac iechyd y cyhoedd, llywodraethau cenedlaethol a lleol, cyrff ymchwil perthnasol, sefydliadau academaidd, llunwyr polisi yn ogystal â’r sector masnachol a sefydliadau partner eraill. Gan ddod â'r cymunedau a'r safbwyntiau amrywiol hyn at ei gilydd, mae'r gynhadledd yn lle delfrydol ar gyfer rhannu a dysgu am ddulliau newydd, gan ysgogi a datblygu newid gwirioneddol mewn ymarfer, yn seiliedig ar y dystiolaeth orau sydd ar gael yn rhyngwladol.
Bydd cydweithwyr o Hyb ACE Cymru, Cymru sy’n Ystyriol o Drawma, y Tîm Atal Trais, Prifysgol Bangor a’r Tîm Cymorth i Leiafrifoedd Ethnig ac Ieuenctid (EYST) yn cynnal tair sesiwn banel ar y cyd, a chynigir dwy sesiwn marchnad syniadau.
Rhagor o wybodaeth yma.
Gallwch ddarllen mwy am gynnwys pob sesiwn isod.
Sut ydym ni'n creu cenedl sy'n ystyriol o drawma?
Mae'r panel hwn yn dwyn ynghyd safbwyntiau ar newid systemau, naratif cyhoeddus, gweithio mewn partneriaeth, gweithredu ac iaith i archwilio taith Cymru tuag at ddod yn gymdeithas sy'n ystyriol o drawma. Drwy drafodaethau am fudiadau cymdeithasol, adrodd straeon, arweinyddiaeth berthynol a chreu ystyr ar y cyd, bydd siaradwyr yn archwilio sut y gellir ymgorffori egwyddorion sy'n ystyriol o drawma ar draws gwasanaethau cyhoeddus, cymunedau a bywyd bob dydd, gan dynnu sylw at y gweithredu ar y cyd sydd ei angen i gyflawni newid cymdeithasol parhaol.
Mae'r panel hwn yn tynnu ar brofiad ymarferwyr ac ymchwilwyr yn Iechyd Cyhoeddus Cymru a Phrifysgol Bangor i rannu'r dulliau a'r ymagweddau sy'n sail i atal trais yng Nghymru, gan gynnig dysgu trosglwyddadwy i'r rhai sy'n gweithio i weithredu dull iechyd y cyhoedd yn eu cyd-destunau eu hunain. Mae'r cyflwyniadau'n cyflwyno fframwaith RISE (Cysylltu Persbectifau, Nodi Cyfleoedd, Cryfhau Galluoedd ac Ymgorffori Atal) a'i weithrediad ymarferol, gan gynnwys Cymuned Ymarfer Cymru Heb Drais; yn archwilio'r dulliau ymchwil cydweithredol a ddefnyddir i ddatblygu gwybodaeth am drais ar draws cwrs bywyd; ac yn arddangos pecyn cymorth hunanasesu a ddatblygwyd gyda Glasbrint VAWDASV Llywodraeth Cymru i gefnogi prifysgolion i gynllunio, gweithredu a monitro gweithgarwch atal trais. Gyda'i gilydd, maent yn cynnig cyfrif cadarn ac ymarferol o sut olwg sydd ar ddull iechyd y cyhoedd pan gaiff ei drosi'n ymchwil, partneriaeth ac ymarfer.
Rhagor o wybodaeth