Bydd y sesiwn hon yn edrych ar y daith rydym yn ei chynnal yng Nghymru i archwilio a deall sut mae profiadau o hiliaeth a gwahaniaethu sy’n pontio’r cenedlaethau yn cael eu deall to safbwynt sy’n ystyriol o drawma. Mae’r gwaith hwn yn cefnogi’r gwaith o ddatblygu adnoddau a chanllawiau i gyflawni ymrwymiad Cymru i ddod yn genedl wrth-hiliol erbyn 2030, ac amcanion penodol cynllun gwrth-hiliol ein System Cyfiawnder Troseddol. Mae’r sesiwn hon yn cydnabod sut, wrth ddatblygu ein dull o greu Cymru sy’n ystyriol o drawma drwy wneud pethau’r ffordd rydym bob amser wedi’u gwneud; rydyn ni wedi bod yn gyfrannog wrth gadw’r ymylon o’r canol ac o ran sut rydyn ni’n mynd i’r afael â’r canlyniad anfwriadol hwn i’n gwaith.
Cadeirydd: Dr Caroline Hughes, Deon Cyswllt, Prifysgol Wrecsam
Dr Joanne Hopkins, Hyb ACE Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru
Our understanding of what works in Wales at a community level is underpinned by an acknowledgement that designing operating models and structured engagement processes in the way that we usually do, fails to engage or reach people whose experience is marginalised and excluded; the people who we say often we most want to reach.
To support our knowledge on the experiences of racial trauma we have been developing a social movement approach using innovative practice to try and reach those in our communities who otherwise would not engage and developing a network of social connectors and place-based activities to explore this further.
Joseff Bromwell, Hyb ACE Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru
Mae’r cyflwyniad hwn yn ystyried sut, trwy ddylunio modelau gweithredu a phrosesau ymgysylltu strwythuredig yn y ffordd arferol, y byddwn yn parhau i fethu ag ymgysylltu â phobl y mae eu profiad wedi’i wthio i’r ymylon ac wedi’i eithrio, na’u cyrraedd; dyma’r bobl yr ydym yn dweud yn aml ein bod fwyaf eisiau eu cyrraedd ac er mwyn deall yn iawn yr hyn sy’n gweithio ar lefel gymunedol, mae angen dulliau newydd. Er mwyn ategu ein gwybodaeth am brofiadau trawma hiliol, rydym wedi bod yn datblygu dull mudiad cymdeithasol gan ddefnyddio arfer arloesol i geisio cyrraedd y rhai yn ein cymunedau na fyddent fel arall yn ymgysylltu, ac yn datblygu rhwydwaith o gysylltwyr cymdeithasol a gweithgareddau sy’n seiliedig ar le i archwilio hyn ymhellach.
Adnoddau Defnyddiol
Crynodeb Cymunedol Cymru sy’n Ystyriol o Drawma
Dr Kat Ford, Prof. Karen Hughes, Prifysgol Bangor
Mae rhaglenni Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill (ESOL) yn galluogi datblygiad iaith ymarferol i oedolion yn y DU nad Saesneg na Chymraeg yw eu hiaith gyntaf. Daw dysgwyr ESOL o gefndiroedd amrywiol, gan gynnwys y rhai sydd wedi profi mudo gorfodol a/neu sy’n fewnfudwyr o wledydd lle nad yw pobl yn siarad Saesneg. Efallai bod dysgwyr wedi profi trawma hirfaith neu gymhleth. Mae’n hanfodol bod y rhai sy’n addysgu ESOL yn deall effaith trawma a sut i ymateb yn effeithiol, er mwyn darparu’r gefnogaeth orau bosibl i’w dysgwyr.
Gwnaed gwaith i ddeall yr hyfforddiant sydd ar gael yng Nghymru, y DU ar hyn o bryd. Cymerodd deuddeg o athrawon ESOL yng Nghymru ran hefyd mewn cyfweliad lled-strwythuredig i archwilio eu canfyddiadau o effeithiau trawma dysgwyr a’u hanghenion hyfforddi. Nid oedd athrawon wedi cael fawr ddim hyfforddiant ar drawma, er gwaethaf ei effaith sylweddol yn yr ystafell ddosbarth. Mae’r canfyddiadau’n nodi anghenion penodol athrawon ESOL yng Nghymru o ran hyfforddiant sy’n ystyriol o drawma. Fodd bynnag, dylid teilwra hyfforddiant o’r fath i’r lleoliad ESOL, gan ystyried y cymhlethdodau ynghylch sut y gall trawma ymddangos yn yr ystafell ddosbarth ESOL.
Adnoddau Defnyddiol
Dr Tegan Brierley Sollis, Prifysgol Wrecsam