Ydych Chi’n Gweld Fy Nhrawma? Realiti Bywyd Unigolion Ethnig Leiafrifolt

Ydych chi'n Gweld Fy Nhrawma? Comisiynwyd 'Realiti Bywyd Unigolion Ethnig Leiafrifol' gan Hyb ACE Cymru i gefnogi'r ymrwymiad a wnaed yn y Cynllun Gweithredu Gwrth-hiliaeth Cyfiawnder Troseddol i Gymru, sef datblygu offer ac adnoddau i gefnogi sefydliadau a phobl yng Nghymru i fod yn gynhwysol o ran trawma hiliol wrth weithredu'r pecyn cymorth sefydliadol sy'n ystyriol o drawma ac ACE. Mae'r adroddiad pwerus hwn yn dogfennu realiti bob dydd unigolion ethnig leiafrifol yng Nghymru o brofiadau trawmatig mewn mannau cyhoeddus, addysg, mynediad at wasanaethau, a mynd ati i fyw eu bywydau bob dydd, sy'n achosi niwed a gofid. Bydd yn llywio'n uniongyrchol y gwaith o gyflawni ymrwymiadau Cymru wrth-hiliol erbyn 2030, ac i Gymru ddod yn genedl sy'n ystyriol o drawma ac sy'n gynhwysol o ran profiadau pobl yn ein holl gymunedau. Rydym yn hynod ddiolchgar i Selima Bahadur, Dr Shela Khan a phawb yn Nhîm Cymorth Lleiafrifoedd Ethnig ac Ieuenctid (EYST) Cymru sydd wedi helpu i gyflawni'r gwaith hanfodol hwn, a gobeithiwn y bydd yn dod â chamau gweithredu go iawn i atal trawma hiliol a sicrhau cefnogaeth briodol i'r rhai sy'n ei brofi sy'n diwallu eu hanghenion.

Adroddiad
Share
Ymwelwch ag EYST Cymru