Mae’r parth amgylchedd ffisegol yn gofyn i sefydliadau ystyried pob agwedd ar eu hamgylchedd a mannau ffisegol a chymdeithasol fel y gallant fod yn ystyriol o TrACE, a sut y bydd hyn yn cefnogi staff, defnyddwyr gwasanaeth, ac unrhyw un arall sy’n ymwneud â’r sefydliad.
Mae'r parth hwn yn ffynhonnell bwysig o wybodaeth ar gyfer sefydliadau sy'n datblygu eu cynlluniau gweithredu i sicrhau bod eu hamgylcheddau ffisegol yn ystyriol o TrACE.
Yn y fideo hwn mae Zarqa, ein Rheolwr Prosiect TrACE, yn rhoi trosolwg byr o faes parth yr amgylchedd ffisegol.
Adnoddau
Yma fe welwch adnoddau a fydd yn helpu i ddatblygu ymagwedd sy’n ystyriol o drawma a phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod (ACE) tuag at amgylchedd ffisegol eich sefydliad.
Bwriad y canllawiau hyn yw cefnogi sefydliadau sy’n gweithredu Pecyn Cymorth TrACE. Bydd yn eu helpu i sicrhau eu bod yn ystyried pob agwedd ar eu hamgylchedd ffisegol a chymdeithasol a’r effaith y gall ei chael ar staff, defnyddwyr gwasanaethau a phawb arall sy’n ymwneud â’r sefydliad. Mae'n berthnasol i bawb sy'n ceisio gwneud amgylcheddau ffisegol ei sefydliad yn fwy ystyriol o TrACE. Mae'n ceisio dangos y gall hyd yn oed newidiadau bach gael effaith fawr ar y ffordd y mae pobl yn rhyngweithio ag amgylchedd ac yn ei brofi, ac y gall pob sefydliad geisio gwella eu hamgylcheddau ffisegol waeth beth fo'r cyfyngiadau cyllidebol a chyfyngiadau eraill. Mae'n pwysleisio bod angen cynllunio, dylunio a gweithredu'n ofalus i greu diogelwch a hyrwyddo iachâd a llesiant i'r rhai sy'n profi'r amgylchedd. Mae hefyd yn ceisio, cyn belled ag y bo modd, osgoi achosi ail drawma i bobl sy'n defnyddio'r lleoliad.
CanllawiauAmgylchedd Ffisegol: Yn dod yn fuan!
Bydd y animeiddiad yn cefnogi sefydliadau sy’n gweithredu Pecyn Cymorth TraCE, bydd yn eu helpu i sicrhau eu bod yn ystyried pob agwedd ar eu hamgylchedd ffisegol a chymdeithasol a’r effaith y gall ei chael ar staff, defnyddwyr gwasanaeth a phawb arall sy’n ymwneud â’r sefydliad. Mae’n berthnasol i bawb sy’n ceisio gwneud amgylcheddau ffisegol ei sefydliad yn fwy ystyriol o TrACE.