Mae’r parth hwn yn ymwneud â’r cymorth cyffredinol a’r buddsoddiad mewn gweithredu a chynnal dull gweithredu sy’n ystyriol o drawma a phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod (ACE) (TrACE).
Ar y dudalen hon fe welwch adnoddau gan Hyb ACE Cymru sydd ar gael yn Gofod TrACE, i’ch cefnogi i ddatblygu eich hunanasesiad a chynllunio gweithredu yn y maes hwn gyda’r parth hwn. Ceir hefyd enghreifftiau ymarferol a gwersi a ddysgwyd gan sefydliadau sydd eisoes wedi rhoi newid ar waith mewn perthynas â llywodraethu, arweinyddiaeth a diwylliant sefydliadol.
Yn y fideo hwn mae Zarqa, un o Reolwyr Prosiect TrACE, yn rhoi trosolwg byr o’r parth Llywodraethu, Arweinyddiaeth a Diwylliant Sefydliadol.
Adnoddau
Yma fe welwch adnoddau i gefnogi eich sefydliad i ystyried Arweinyddiaeth, Llywodraethu a Diwylliant Sefydliadol fel rhan o weithredu dull sy’n ystyriol o TrACE, sy’n gofyn am ymrwymiad a dealltwriaeth glir o ymarfer sy’n ystyriol o drawma ledled y sefydliad.
Diben y canllaw hwn yw rhoi cymorth i sefydliadau greu eu Datganiad Ymrwymiad eu hunain. Gall Datganiad Ymrwymiad crefftus helpu i gyfleu’r bwriad a’r flaenoriaeth i ddod yn sefydliad sy’n ystyriol o TrACE i staff, defnyddwyr gwasanaeth a rhanddeiliaid ehangach.
Mae'r canllaw yn cynnwys enghraifft o astudiaeth achos o Ddatganiad o Ymrwymiad a ddatblygwyd gan Brifysgol Aberystwyth gan ddefnyddio dull arloesol, cynhwysol o gyd-greu a chyd-ddatblygu dogfen a gymeradwyir gan bob lefel o'r gymuned.
Isod mae fideo o Dr Jo Hopkins, Cyfarwyddwr Hyb ACE Cymru, mewn trafodaeth ag Ian Munton, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth, a Lauren Hopkins, Swyddog Cyfathrebu ac Ymgysylltu Hyb ACE Cymru.
Yma maent yn cyflwyno’r dull ymgysylltu – Sgyrsiau Cymunedol – a ddefnyddiwyd ym Mhrifysgol Aberystwyth i ddatblygu Datganiad Ymrwymiad y brifysgol. Mae dull Sgyrsiau Cymunedol yn ffordd wych o ymgysylltu â rhanddeiliaid ar y dechrau a thrwy gydol taith TrACE eich sefydliad.
Mae’r canllaw byr hwn yn rhoi ystyriaeth i ddull cyfathrebu sy'n ystyriol o drawma.
PDF