Bydd cydweithwyr o Hyb ACE Cymru, Cymru sy’n Ystyriol o Drawma, y Tîm Atal Trais, Prifysgol Bangor a’r Tîm Cymorth i Leiafrifoedd Ethnig ac Ieuenctid (EYST) yn cynnal tair sesiwn banel ar y cyd, a chynigir dwy sesiwn marchnad syniadau.

Yn dilyn cynadleddau hynod lwyddiannus yng Ngogledd America, Affrica, Ewrop ac Awstralia, mae digwyddiad byd-eang 2026 yn Leeds yn gyfle unigryw i roi sylw i ymchwil fyd-eang ac arfer blaenllaw yn y byd ar draws gorfodi’r gyfraith ac iechyd y cyhoedd. Y thema gyffredinol ar gyfer 2026 fydd bregusrwydd, plismona ac iechyd y cyhoedd.
Bydd y gynhadledd ar agor i asiantaethau gorfodi’r gyfraith ac iechyd y cyhoedd, llywodraethau cenedlaethol a lleol, cyrff ymchwil perthnasol, sefydliadau academaidd, llunwyr polisi yn ogystal â’r sector masnachol a sefydliadau partner eraill. Gan ddod â’r cymunedau a’r safbwyntiau amrywiol hyn at ei gilydd, mae’r gynhadledd yn lle delfrydol ar gyfer rhannu a dysgu am ddulliau newydd, gan ysgogi a datblygu newid gwirioneddol mewn ymarfer, yn seiliedig ar y dystiolaeth orau sydd ar gael yn rhyngwladol.