Cafodd ymgyrch flaenllaw Hyb ACE Cymru — #AmseriFodynGaredig — ei lansio yn 2019 gyda’r nod o hyrwyddo caredigrwydd a datblygu “Cymru sy’n ymwybodol o ACE” trwy annog dealltwriaeth a thrugaredd tuag at bobl sydd wedi eu heffeithio gan Brofiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod (ACE).
Sawl blwyddyn yn ddiweddarach, mae Hyb ACE Cymru bellach yn cyd-arwain gwaith gyda phobl a sefydliadau ledled Cymru i greu cenedl sy’n ystyriol o drawma. Er mwyn helpu i gyflawni’r nod yma o Gymru sy’n ystyriol o drawma, mae’r rhan yma o’r ymgyrch yn adeiladu ar lwyddiant blynyddoedd blaenorol trwy greu hysbyseb deledu llawn emosiwn sy’n annog creu cymdeithas fwy caredig fel bod pawb yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi i ffynnu.
Roedd bywyd yn ystod y pandemig yn gyfnod anodd i bawb, yn arbennig i’n pobl ifanc, gyda llawer yn profi unigedd, straen a gorbryder. Fe wnaeth COVID-19 waethygu profiad plant sydd mewn perygl o gael ACEs neu sy’n eu profi yn y cartref. Roedd diffyg mynediad at ffrindiau ysgol, athrawon, gweithwyr cymdeithasol a’r lle a’r gwasanaethau diogel y mae ysgolion yn eu darparu yn golygu bod mwy o blant yn methu cael eu lleisiau clywed neu gyrchu ffactorau cymorth/amddiffynnol.
Yn dilyn llwyddiant ein hymgyrch #Amser i Fod yn Garedig gyntaf, fe wnaethom gynnal ein hymgyrch newid ymddygiad.
Y nod y tro hwn oedd gyrru ymwybyddiaeth o Brofiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod (ACEs) a chefnogi’r bobl ifanc a brofodd anawsterau yn ystod pandemig COVID-19 drwy annog caredigrwydd ledled y wlad.
Amlygodd ein negeseuon, y tu ôl i ddrysau caeëdig, gallai fod plentyn a theulu sy'n ei chael hi'n anodd.
Gwerthuswyd ffilm yr ymgyrch hefyd yn annibynnol gan Brifysgol Bangor. Ceisiodd y gwerthusiad adnabod a fyddai gwylio ein ffilm yn cynyddu bwriadau pobl i ymddwyn mewn ffyrdd sy'n hyrwyddo caredigrwydd at eraill ac os oedd bwriadau yn gysylltiedig â chael eich effiethio'n emosiynol gan y ffilm.
Dangosodd canfyddiadau fod gan y cyhoedd agweddau cadarnhaol at y ffilm #AmseriFodynGaredig. O ganlyniad i wylio, adroddodd y rhan fwyaf o bobl am fwriadau i fod yn garedicach at eraill, hyd yn oed mwy felly i'r rhai a gafodd eu heffeithio'n emosiynol (e.e teimlo'n ofidus neu drist) o'i gwylio.
Mae canfyddiadau'r gwerthusiad wedi helpu i ddangos nid yn unig fod ein ffilm wedi cael effaith, ond hefyd sut mae ffilmiau yn gallu bod yn declyn offeryn iechyd cyhoeddus gwych i hyrwyddo caredigrwydd a'u bod yn ddefnyddiol i ymgyrchoedd neu negeseuon iechyd cyhoeddus yn y dyfodol sy'n dymuno hyrwyddo newid ymddygiad.