Mae’r adroddiad hwn yn amlinellu sut, drwy fabwysiadu’r dull ‘Dinas Marmot’ a ddatblygwyd gan Syr Michael Marmot, ar lefel ranbarthol yng Ngwent, mae ‘Gwent Teg i Bawb’ yn ceisio sefydlu model sy’n ystyriol o drawma ac sy’n mynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd mewn ffordd sy’n cyd-fynd ag egwyddorion ac ethos Fframwaith Cymru sy'n Ystyriol o Drawma. Mae ‘Creu Gwent Degach' yn cydnabod y cysylltiad annatod rhwng penderfynyddion cymdeithasol iechyd, anghydraddoldebau iechyd a'r risg o brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod a thrawma. Mae'r gwaith hwn yn gyfraniad pwysig at wybodaeth am waith cymunedol i fynd i'r afael ag achosion gwraidd.
Clywch gan Tracy Daszkiewicz, Cyfarwyddwr Gweithredol Iechyd y Cyhoedd a Phartneriaethau Strategol, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, sy’n esbonio mwy am y dull gweithredu.