Croeso i gwrs e-Ddysgu Cyflwyniad i Brofiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod (ACEs) ac Ymarfer sy'n Ystyriol o Drawma gan Hyb ACE Cymru. Gan gyfeirio at Fframwaith Cenedlaethol Cymru sy'n Seiliedig ar Drawma, ystyrir bod y cwrs ar-lein hwn ar lefel "ymwybodol o drawma".
Mae’r cwrs ar-lein hwn yn trafod pynciau a allai beri gofid i chi. Mae llawer ohonom wedi cael adfyd a thrawma yn ein bywydau; neu’n adnabod ffrindiau, teulu neu gydweithwyr sydd wedi. Weithiau nid ydym yn ymwybodol o sut y gall siarad am brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod a digwyddiadau trawmatig wneud i ni deimlo. Felly, mae’n bwysig cymryd seibiant, neu adael y cwrs ar unrhyw adeg, os ydych chi’n teimlo bod angen i chi wneud hynny.
Cymerwch ran gyda gofal a byddwch yn garedig â chi ‘ch hun a chyn i chi ddechrau ymgyfarwyddwch â lle gallech chi gael cymorth ychwanegol os bydd ei angen arnoch. Yn y gweithle dylech chi hefyd siarad â’ch rheolwr llinell, neu raglen cymorth cyflogeion os nad ydych yn siŵr pa gymorth y mae eich sefydliad yn ei ddarparu ar eich cyfer.
Oherwydd pwnc yr hyfforddiant, nid yw’n addas i blant fod yn bresennol yn yr ystafell os gallan nhw glywed neu weld unrhyw gynnwys neu drafodaethau. A chofiwch fod yn ymwybodol o unrhyw bobl eraill yn eich cartref neu’ch cyffiniau a allai ddigwydd clywed.
Mae’r cwrs ar-lein hwn ar gael i bawb. Oherwydd cynnwys yr hyfforddiant, nid yw wedi ei argymell ar gyfer plant dan 16 oed oni bai bod oedolyn y gallan nhw ymddiried ynddo sy’n gyfarwydd â’r cymorth ychwanegol penodol sydd ar gael i blant a phobl ifanc gyda nhw.
Gall unrhyw un gael trawma ar unrhyw adeg yn eu bywydau, a gallai rhywfaint o’r wybodaeth a drafodir yn yr hyfforddiant hwn wneud i chi deimlo’n bryderus, yn ofidus neu’n cofio digwyddiadau anodd yn eich bywyd pan ddigwyddodd hyn. Mae eich profiadau a sut maen nhw wedi effeithio arnoch chi, yn unigryw i chi. I, Rydym yn eich annog i geisio cymorth, os bydd ei angen arnoch, mewn ffordd sy’n gweithio i chi. Mae ein gwefan yn darparu gwybodaeth am ble y gallwch chi gael cymorth – cliciwch yma ddod o hyd i’r wybodaeth hon
Nid rhestr gyflawn yw hon ac ni fwriedir iddi gymryd lle cymorth gan unrhyw wasanaethau neu weithwyr proffesiynol eraill.