Cwympo o’r Awyr: Lleisiau Plant Digwmni sy’n Ceisio Lloches yng ngofal awdurdodau lleol yng Nghymru

Bydd yr adroddiad a’i ganfyddiadau, y cytunwyd eu bod yn un o’r pethau y gellid eu cyflawni yng nghynllun Hyb ACE Cymru gyda Llywodraeth Cymru ar gyfer 2024/25, yn helpu’n uniongyrchol i roi Fframwaith Ymarfer Cymru sy’n Ystyriol o Drawma ar waith. Mae’r Fframwaith, a gyhoeddwyd yn 2022, yn nodi pum egwyddor sylfaenol ar gyfer dull sy’n ystyriol o drawma yng Nghymru, gan gynnwys ymrwymiad i fod yn gynhwysol tuag at brofiadau o adfyd a thrawma yn ein holl gymunedau. Mae’r adroddiad yn cyfrannu at gorff sefydledig o waith a gomisiynwyd gan Hyb ACE Cymru i ategu’r ymrwymiad hwn. Mae’r casgliad o astudiaethau’n ystyried sut mae plant a phobl ifanc sydd wrthi’n symud yn eu mamwlad, yn ystod y daith fudo ac yng Nghymru, yn profi adfyd a thrawma.

Y ffocws yw’r nifer o briodoleddau cadarnhaol y mae plant a phobl ifanc yn eu dangos i oresgyn effaith eu profiadau ar lesiant meddyliol a chorfforol; a nodi’r gefnogaeth yn canolbwyntio ar y person sydd ei hangen ar gyfer gwell canlyniadau iechyd a gwell canlyniadau cymdeithasol. Mae’r adroddiad hefyd yn sôn yn uniongyrchol am ofyniad Gweithdrefnau Diogelu Cymru i ganolbwyntio ar y plentyn a sicrhau bod lleisiau pobl ifanc yn cael eu clywed.

Adroddiad
Share