Hyfforddiant Sefydliad Gwybodus am Drawma Cymru Gyfan

Tywysydd & Fideo
Share

Dylid defnyddio’r Gweithlyfr hwn ochr yn ochr â fideos e-ddysgu’r Sefydliad sy’n Ystyriol o Drawma. Mae’n cefnogi cynnwys dysgu’r fideos, gan gynnwys gwybodaeth ychwanegol o ymchwil ac ymarfer yng Nghymru, y DU ac yn rhyngwladol.

Gan ein bod wedi ceisio osgoi dyblygu’r adnoddau presennol, mae dysgu ymlaen llaw a argymhellir wedi’i gynnwys yn y Gweithlyfr.

Mae ymarferion myfyrio a dysgu ym mhob pennod, sy’n adeiladu ar y themâu a’r meysydd datblygu.

Ym Mhennod 5 mae nifer o daflenni gwaith ac ymarferion i gefnogi’r gwaith o gynllunio a gweithredu dull sy’n ystyriol o drawma yn eich sefydliad. Gellid cwblhau’r rhain yn unigol yn ystod sesiynau gyda’ch staff, neu gyda chleientiaid neu ddefnyddwyr gwasanaeth.

Mae’r Gweithlyfr hefyd yn cynnwys rhestr o sefydliadau defnyddiol, gwaith perthnasol gan unigolion, gwefannau ac adnoddau, y mae rhai ohonynt wedi’u cynnwys yn yr hyfforddiant.

Mae’r gweithlyfr ar gael i’w lawrlwytho ar frig y dudalen.