LEPH2023 Ewrop yw’r gynhadledd ranbarthol Ewropeaidd gyntaf i ystyried croestoriadau cymhleth ac amrywiol gorfodi’r gyfraith ac iechyd cyhoeddus, sy’n cynnwys ymarferwyr, gwneuthurwyr polisi ac ymchwilwyr o’r sectorau hyn ac o sectorau cysylltiedig eraill. Mae’n parhau â chyfres gynadledda ryngwladol LEPH, gyda chyfle i ganolbwyntio ar faterion rhanbarthol allweddol.
Y brif thema ar gyfer LEPH2023 Ewrop yw ‘Gyda’n gilydd tuag at gymunedau cydnerth’, gan adeiladu ar gynadleddau LEPH blaenorol sydd wedi disgrifio a dadansoddi’r materion, astudio ystod enfawr o ymatebion gwirioneddol a phosibl ar raddfa fyd-eang a phwysleisio pwysigrwydd arweinyddiaeth gydweithredol mewn polisi ac arferion.